Glesyn masarin
Oedolyn gwryw
(Polyommatus semiargus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Genws: Polyommatus
Rhywogaeth: P. semiargus
Enw deuenwol
Polyommatus semiargus
(Rottemburg, 1775)
Cyfystyron
  • Papilio semiargus Rottemburg, 1775
  • Papilio acis Denis & Schiffermüller, 1775 (preocc. Drury, 1773)
  • Cyaniris argianus Dalman, 1816
  • Cyaniris semiargus (Rottemburg, 1775)
  • Lycaena semiargus (Rottemburg, 1775)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn masarin, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision masarin; yr enw Saesneg yw Mazarine Blue, a'r enw gwyddonol yw Polyommatus semiargus neu Cyaniris semiargus.[1][2]

Benyw
Benyw

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn masarin yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cynefin golygu

Gellir canfod y glesyn masarin drwy Ewrop a hyd yn oed i lawr gychwyn Cylch yr Arctig ac yn Asia a'r Dwyrain Canol.[3]

Maint golygu

Mae maint adenydd y gwryw a'r fenyw'n debyg iawn:,[4] sef 32-38 mm.[5]

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Recorded for example, in Syria: Graves, Philip P. (1905). "Notes on Egyptian and Syrian butterflies". The Entomologist's record and journal of variation 19.
  4. "UK Butterflies - Mazarine Blue - Cyaniris semiargus". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-17. Cyrchwyd 2010-07-03.
  5. "Cockayne Collection". Natural History Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-08. Cyrchwyd 2010-07-03.