Glo

math o graig du sydd hefyd yn danwydd

Craig waddod ddu neu frown yw glo. Mae mwy na phumdeg y cant wrth ei bwysau a mwy na saithdeg y cant wrth ei gyfaint yn garbon (hyd yn oed wrth gyfri'r dŵr sydd ynghlwm ynddo). Mae'n bwysig fel tanwydd ffosil er mwyn cynhyrchu gwres. Gellir defnyddio glo i gynhyrchu trydan.

Glo
Mathsolid fuel, craig waddodol Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscarbon, Q16721862, maceral Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o feusydd glo Cymu a Lloegr gan W. Smith, 1820. Glo: du.

Cynhyrchwyd glo yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd mewn fforestydd mawr gwernydd, y Fforestydd Glo. Trowyd planhigion wedi marw yn fawn ar diroedd gwlyb ac o'i wasgu am filiynau o flynyddoedd trowyd y mawn yn lo. Planhigion pennaf y Fforestydd Glo oedd cnwpfwsoglau, coedredyn a marchrawn - i gyd yn blanhigion llysieuol a dyfent cymaint â choeden y pryd hynny ond sy'n tyfu'n llai o faint heddiw.

Yn anffodus, mae glo yn creu nifer o broblemau i'r amgylchfyd. O ganlyniad i losgi glo mae carbon deuocsid, y prif nwy tŷ gwydr, sylffur deuocsid a llwch yn cael eu gollwng i'r awyr.

Glo Cymru golygu

Prif erthygl: Diwydiant glo Cymru.

Yng Nghymru ceir dau faes glo sef Maes Glo Gogledd Cymru, sydd yn rhan o'r un maes a Maes Glo Sir Gaerhirfryn yn Lloegr, a Maes Glo De Cymru, maes glo mwyaf Prydain, yn ymestyn o Sir Benfro, bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd.

Cloddir glo Cymru ers canrifoedd, ond daeth yn danwydd pwysig iawn adeg y Chwyldro Diwydiannol. O ganlyniad datblygodd llawer o byllau glo a ffatrïoedd yn Ne Cymru gan ddwyn newid ysgubol i fywyd a diwylliant yr ardal honno. Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd tua trideg y cant o weithwyr Cymru yn gweithio yn y diwydiant glo neu dur, ond erbyn heddiw mae llawer o'r pyllau glo a'r ffatrïoedd wedi cau. Yn sgil y crebachu ar ddiwydiant trwm cafwyd streiciau a phroblemau cymdeithasol yn Ne Cymru yn y 1970au a 1980au.

Mae Blaenafon wedi ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd gan yr UNESCO achos ei fod yn dref diwydiant glo a haearn pwysig. Yn y dref, mae'n bosib gweld pwll glo yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Glofa Pwll Mawr.

Mathau o lo golygu

  • glo cwlwm
Peth arall a gofiaf yn amser fy mhlentyndod oedd cwlwm. Byddem yn cael sawl llwyth cart o lwch glo; yna y broses o wneud y cwlwm oedd i gymysgu'r llwch glo â chlai a'i ddodi yng nghornel y clós. Yna byddai fy mam-gu yn ei orchuddio a gwyngalch tew i'w ddiogelu rhag y glaw yn y gaeaf.[1]
18 Medi 1894: Nol cwlm i Felin Bodwrdda...[2]
Ystyron culm yn yr OED: 1. soot, smut, 2. coal-dust, small or refuse coal, slack...Hence spec. applied to the slack of anthracite or stone-coal, from the Welsh collieries, which was in common use for burning lime and drying malt.[3]
Ystyron cwlm yn GPC: glo cwlm, glo cwlwm: culm, the slack or small coal of anthracite or stone-coal; a damp mixture of small coal (usually binding coal), clay or mud (lime or peat) made into balls ready to be placed on the fire. 1800 P. Ar lafar yn y De.[4]
Yn ei lyfr “Pembrokeshire” mae Brian John yn ysgrifennu: One of the earliest areas which shipped out coal and culm was the Landshipping area. Glo mân felly yw cwlwm. Cefais air â chyfaill sydd dros ei bedwar ugain oed ac a fagwyd ar fferm yn ardal Arberth ac roedd yn hen gyfarwydd a’r gair a chofiai’n dda amdano fel tanwydd pwysig. Y drefn oedd cymryd tunnell neu ddwy ar y tro o gwlwm, clai a dŵr a cherdded ceffyl drwyddo yn ôl ac ymlaen i sicrhau cymysgu llwyr. Defnyddid hwn i gadw’r tân yn fyw dros nos. Ni fyddai’r tân byth yn diffodd a byddai’r gegin yn gynnes peth cyntaf yn y bore. Ni fyddai’r tanwydd yma yn creu digon o wres at goginio a rhaid fyddai defnyddio glo o ansawdd da yn ystod y dydd. Roedd cyfaill arall, eto yn oedrannus, ac o ardal glofaol Castellnedd yn cofio yr un drefn, ond ar llai o raddfa. Arferai ei gymysgu a llaw ac yn gwneud peli i’w roi ar y tân i’w gadw’n fyw dros nos. Cofiai ei fod yn waith annifyr a brwnt iawn.[5]
Yn ystod fy ngwyliau Pasgyn fferm fy ewythr pan oeddwn tua tair ar ddeg fy ngwaith ar ddiwrnod gwlyb fyddai gwneud pele mond gan mai dyna beth oeddent yn cael ei galw yn Shir Gâr. Cymysgu llwch y glo a siment ar llawr y 'cartws' oedd hyn, ac yna rhoi hen bapurau newydd ar y llawr a gorwedd y pele arnynt. Ar ôl gorchuddio tua tri neu bedwar llathed tua pedwar modfedd o drwch, rhedeg blaen y rhaw trwyddo i wneud sgwarie bach tua chwe modfedd sgwar. Nid fy hoff waith o bell ffordd[6]
  • glo ager: steam-coal. 1864.
  • glo bôls = glo pelau. (Ar lafar yng Ngheredigion)
  • glo braisg: large coal, lump-coal. (Ar lafar ym Morg. yn y ff. glo braishg,—brashg, B viii. 215.
  • glo bras = glo braisg.) 

Ar lafar yn gyff., WVBD 152.

  • glo brig: outcrop coal. (Ar lafar yn y De.)
  • glo brwnt: dirty coal. Ar lafar yn y De. (glo byw, glo bywiol: burning coal, live coal.) 1658 R. Vaughan: PS 389.
  • glo caled: anthracite coal, stone-coal (lit. hard coal). 1772 W d.g. coal, stone-coal (hefyd WR). Ar lafar yn y De.
  • glo canel: cannel coal. 1736 S. Rhydderch: Alm [6].
  • glo canwyll: cannel coal. 1849.
  • glo carreg = glo caled. 1800 P. Ar lafar yn y De, B viii. 215.
  • glo clampiog: cob-coal. 1850.
  • glo cnapau = glo bras'. (Ar lafar yn y De yn y ff.
  • glo cnape (cnapa), B viii. 215.)
  • glo coed: charcoal. 1842.
  • glo crasu: coal for drying grain. 1854.

• glo daear: (bituminous) coal, pit-coal, coal as distinguished from charcoal. 1617 Minsheu, 436b d.g. sea-coale.1736 S. Rhydderch: Alm[6].

  • glo di-fwg: smokeless coal. 20g.
  • glo gefail: smith’s coal, slack, culm. 1604-7 TW (Pen 228) d.g. terra … terra ampelitis.
  • glo glân: clean coal. Ar lafar yn y De.
  • glo gofaint = glo gefail. 1604-7 TW (Pen 228) d.g. terra … terra ampelitis.1772 W d.g. culm.
  • glo golosg, glo golosgol: coked coal, coke. 1772 W d.g. coke.
  • glo gwlad: house-coal, coal used for domestic purposes. 1854.
  • glo gwyllt: coal that burns quickly. Ar lafar, WVBD 191.
  • glo mân: small coal, slack. 1772 W d.g. culm. Ar lafar yn gyff.
  • glo meddal: bituminous coal. 19g.
  • glo môr: steam-coal for navy, &c. 1850.
  • glo pelau: clay-balls of culm, similar to ‘glo cwlwm’. 1772 W d.g. culm. Ar lafar ym Morg.
  • glo pwll, glo pyllau: (bituminous) coal, pit-coal. 1780 W d.g. pit-coal (hefyd WR).
  • glo rhing, glo ring: binding coal, ring-coal, house-coal. 1800 P. Ar lafar yn Nyfed, GDD 144.
  • glo rhwym: binding coal, bituminous coal 1814 W. Davies: Agric … S. Wales ii. 334.

Ar lafar yn y De.

  • glo rhydd: non-bituminous coal, coal that does not bind. Ar lafar yn y De.
  • glo sbagog, glo ysbagog: coking-coal, coal suited for coking, claky coal (lit. clawed coal) 1814 W. Davies: Agric … S. Wales ii. 337.
  • glo Sgot: ?Scotch coal. 1736 S. Rhydderch: Alm
  • glo slac = glo mân. Ar lafar yng Nghered.
  • glo stêm: steam-coal. Ar lafar ym Morg.
  • glo stwmin: damp mixture of small coal, &c., used to bank fires. Ar lafar yng nghanolbarth Cered.
  • glo tai: house-coal. 1874. Ar lafar ym Morg.
  • glo tân = glo tai. 1815.
  • glo tramor: coal mined for export. 1854.
  • glo trwyddo: mixed coal, containing fair proportions of large and small coal. Ar lafar yn y De, LlGC 1134 9.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Mrs Irene Davies, Maenhir Blaenffos (Papur Bro Clebran 1990)
  2. Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (Archifdy Gwynedd)
  3. Oxford English Dictionary
  4. 4.0 4.1 ref>Geiriadur Prifysgol Cymru
  5. John Lloyd Jones, Pelcombe yn Bwletin Llên Natur rhifyn 39
  6. Bryan Jones, Llangamarch, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 52

Dolenni allanol golygu