Glynebwy

tref ym Mlaenau Gwent
(Ailgyfeiriad o Glyn Ebwy)

Prif dref ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Glynebwy,[1] weithiau Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale).

Glynebwy
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,558 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7779°N 3.2117°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO165095 Edit this on Wikidata
Cod postNP23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Roedd gan ardal drefol Glynebwy boblogaeth o 33,343 yn ôl amcangyfrif swyddogol cyfrifiad 2020.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[3][4]

Datblygiadau ar Safle Gwaith Dur Glynebwy golygu

Yn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.[5]

Gŵyl Garddio Genedlaethol Cymru golygu

Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.[6]

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).

Ffeithiau Diddorol golygu

  • Crëwyd Pont Porthladd Sydney gyda dur a haearn o weithfeydd dur Glynebwy.[7]
  • Crëwyd cledrau sydd ar Reilffordd Stockton and Darlington yng Nglynebwy.[8]

Enwogion golygu

Gwybodaeth eraill golygu

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[9]

Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. City Population; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Y Weledigaeth. Adalwyd 20 Ebrill 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-27. Cyrchwyd 2011-04-20.
  6. (Saesneg) During the Garden Festival of Wales. Gŵyl Gerddi Cymru. Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
  7. Gweler Hanes Glynebwy ar gwefan y BBC
  8. Gweler 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol yng Nglynebwy. Archifwyd 2011-05-18 yn y Peiriant Wayback.
  9. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Flaenau Gwent. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.