God Defend New Zealand

Un o ddwy anthem genedlaethol Seland Newydd yw God Defend New Zealand ("Amddiffyned Duw Seland Newydd"). God Save the Queen yw'r llall.

God Defend New Zealand
Enghraifft o'r canlynolanthem genedlaethol Edit this on Wikidata
GwladSeland Newydd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Newydd Seland, Maori Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1870s Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Genrecerdd Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Joseph Woods Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg yn yr 1870au gan Thomas Bracken (1843–1898), bardd a gwleidydd o Dunedin.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddarparu alaw iddo ym 1876. Enillwyd honno gan y cerddor John Joseph Woods (1849–1934). Ysgrifennwyd fersiwn â geiriau o iaith Maori gan Thomas Henry Smith (1824–1907) ym 1878. Yn y blynyddoedd i ddod daeth y gân yn fwyfwy poblogaidd. Erbyn y 1970au roedd mudiad i wneud God Defend New Zealand yn anthem genedlaethol y wlad yn lle God Save the Queen. Yn y diwedd, ym 1977, rhoddwyd staws anthem genedlaethol i'r ddau ohonyn nhw ar y cyd. Ers diwedd y 1990au, yr arfer arferol wrth berfformio God Defend New Zealand yn gyhoeddus yw perfformio pennill cyntaf ddwywaith, yn gyntaf ym Maori ac wedi hynny yn Saesneg.

Geiriau golygu

Saesneg Cymraeg[2]

E Ihowā Atua,
O ngā iwi mātou rā
Āta whakarangona;
Me aroha noa
Kia hua ko te pai;
Kia tau tō atawhai;
Manaakitia mai
Aotearoa
 
God of Nations at Thy feet,
In the bonds of love we meet,
Hear our voices, we entreat,
God defend our free land.
Guard Pacific's triple star
From the shafts of strife and war,
Make her praises heard afar,
God defend New Zealand.

O ein Arglwydd Jehofa
Ti biau’r cenhedloedd ’ma
Arnom ninnau, O, gwranda
Gyda chariad bythol pur
Boed i ffyniant dywallt ymlaen
Dy fendithion elo ar daen
Gwarchod rhag pob pwys a straen
Wlad y Cwmwl Gwyn Hir
 
Dduw’r Cenhedloedd, wrth Dy draed,
Dan rwymau cariad cwrddwn mewn haid,
Clyw ein lleisiau er mwyn Dy waed,
Gwarchod ein gwlad rydd, Lywydd,
Seren driblyg y Môr Dawel
Rhag pelydrau brwydr a rhyfel,
Cana’i chlodydd i bob gorwel,
Gwarchod Seland Newydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "National hymn, God defend New Zealand. 1876; ID: GNZMS 6], Grey New Zealand manuscripts". Cyngor Auckland.
  2. "New Zealand National Anthem", Lyrics Translate; adalwyd 7 Ionawr 2022