Gogledd Catalwnia

(Ailgyfeiriad o Gogledd Catalonia)

Gogledd Catalwnia (Catalaneg: Catalunya Nord) yw'r term a ddefnyddir yng Nghatalwnia am y tiriogaethau yn awr yn departement Pyrénées-Orientales yn Ffrainc lle siaredir Catalaneg. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Pyrénées-Orientales, heblaw am ddarn yn y gogledd. Gelwir yr ardal yn Roussillon yn Ffrangeg fel rheol.

Gogledd Catalwnia
Mathendid tiriogaethol dynol-ddaearyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasPerpignan Edit this on Wikidata
Poblogaeth482,765 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHermeline Malherbe-Laurent Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPaïsos Catalans Edit this on Wikidata
SirPyrénées-Orientales Edit this on Wikidata
GwladBaner Catalwnia Catalwnia
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd4,116 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.63°N 2.67°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHermeline Malherbe-Laurent Edit this on Wikidata
Map
Departement Pyrénées-Orientales a Chymuned Ymreolaethol Catalwnia

Trosglwyddwyd y diriogaeth yma o Sbaen i Ffrainc gan Gytundeb y Pyreneau yn 1659. Y ddinas fwyaf yw Perpignan (Catalaneg: Perpinyà), lle ceir traean o boblogaeth yr ardal. Amcangyfrifir fod tua chwarter y boblogaeth yn siarad Catalaneg, gyda chanran uwch yn ei deall. Yn Rhagfyr 2007, derbyniodd llywodraeth Pyrénées-Orientales yr iaith Gatalaneg fel un o ieithoedd swyddogol y departement, gyda Ffrangeg ac Occitaneg.