Gwasanaeth cyfieithu sy'n seiliedig ar ystadegau ac a ddarperir gan Google Inc. i gyfieithu testun, dogfen, neu wefan i iaith arall ydyw Google Translate. Mae ar gael yn rhad ac am ddim.

Google Translate
URL translate.google.com
Math o wefan Peiriant cyfieithu
Cofrestru Na
Perchennog Google
Crëwyd gan Google
Statws cyfredol Gweithredol

Cyflwynwyd y gwasanaeth yn 2007. Cyn hynny, yr oedd Google yn defnyddio peiriant cyfieithu a oedd yn seiliedig ar SYSTRAN.[1] Roedd technoleg SYSTRAN hefyd yn seiliedig ar wasanaethau cyfieithu eraill, megis 'Yahoo! Babel Fish', AOL, a Yahoo.

Y Gymraeg golygu

Gan fod peiriannau cyfieithu yn dibynnu ar gronfa o eirfa a gedwir mewn cronfa ddata, gall cyfieithiadau o un iaith i'r llall fod yn amheus iawn, yn enwedig gydag ieithoedd lle bo newidiadau i gystrawennau, geiriau, a gramadeg (megis trefn ansoddeiriau-enwau a threigladau a geir mewn ieithoedd Celtaidd). Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried Google Translate, a'r fath adnoddau, i fod yn "... adnoddau defnyddiol i gyfieithwyr proffesiynol..." a bod y Bwrdd "...wrthi'n paratoi cyngor i gyrff cyhoeddus [i ddweud] nad ydyw'n dderbyniol i ddibynnu'n llwyr ar y fath feddalwedd i gyflawni gofynion Cynlluniau'r Iaith Gymraeg."[2] Mae'r Wicipedia Cymraeg wedi'i ddyfynnu fel un o'r prif resymau pam mae Google Translate Cymraeg wedi gwella'n fawr, gan fod Wicipedia yn darparu corpws mawr o eiriau i Google Translate ddibynnu arno.[3]

Cymhariaeth golygu

 
Rhyngwyneb Cymraeg

Gellir cymharu ansawdd Google Translate (fersiwn Tachwedd 2015), fel a ganlyn:

Saesneg gwreiddiol Cymraeg Google Translate Nodiadau
The common alder provides food and shelter to wildlife, with a number of insects, lichens and fungi being completely dependent on the tree. Mae'r wernen gyffredin yn darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt, gyda nifer o bryfed, cennau a ffyngau yn gwbl ddibynnol ar y goeden. Cywir.
It is a pioneer species, colonising vacant land and forming mixed forests as other trees appear in its wake. Mae'n rhywogaeth arloeswr, cytrefu tir gwag a ffurfio coedwigoedd cymysg fel coed arall yn ymddangos yn ei sgil. Anghywir; gwell fyddai: 'Mae'n rhywogaeth sy'n arloesi'. Anghywir hefyd yw 'fel coed arall...'; gwell fyddai: 'fel y mae coed eraill...'
Eventually common alder dies out of woodlands because the seedlings need more light than is available on the forest floor. Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod y eginblanhigion angen mwy o oleuni nag sydd ar gael ar lawr y goedwig Anghywir: 'Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod...'; cywir fyddai: 'Yn y pen draw, mae'r wernen yn diflannu o'r coedtiroedd gan fod...'. Anghywir hefyd yw 'y eginblanhigion'; cywir fyddai 'yr egin-blanhigion'. Gweddill y frawddeg yn gywir.
Its more usual habitat is forest edges, swamps and riverside corridors. Ei gynefin mwy arferol yw ymylon coedwigoedd, corsydd a choridorau ar lan yr afon. Brawddeg Saesneg wael; nid oes angen 'mwy'. Dim bai yma ar y peiriant cyfieithu. Nid yw'r gair 'coridorau' yn gweddu gant-y-cant yn y Gymraeg.

Fel y gwelir, mae'r rhan fwyaf o'r cyfieithiad Cymraeg yn gywir, ond ceir sawl camgyfieithu annerbyniol.

 
Rhyngwyneb y Cymhorthydd Cyfieithu, gan ddefnyddio Google Translate i gyfieithu

Gellir defnyddio Google Translate oddi fewn i'r Cymhorthydd Cyfieithu, drwy ddewis y tesun ac yna ctrl ac Alt.

Cyfeiriadau golygu

  1. Google Translate Drops Systran For Home Brewed Translation 23/12/2007, Barry Schwartz, searchengineland.com
  2. Meeting of the Welsh Language Board's Translation Forum (en) , 4 Tachwedd 2009.
  3. Harrison, Stephen (Awst 7, 2019). "Welsh Wikipedia gives me hope" (yn Saesneg). Slate.com.

Dolenni allanol golygu