Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gorchymyn sifil yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon[1] yn erbyn person sydd wedi ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Saesneg: Anti-Social Behaviour Order neu ASBO (IPA: /ˈæzboʊ/)). Ei bwrpas yw lleihau'r potensial o'r unigolyn yn ymgymryd ag ymddygiad tebyg yn y dyfodol: gall hyn fod trwy'i wahardd rhag ymweld â mannau penodol neu gymysgu â phobl benodol.[2] Llys sy'n gwneud ASBO ac er ei fod yn orchymyn sifil mae'n drosedd i'w dorri, a allai arwain at gosb o ddirwy neu ddedfryd o garchar hyd at bum mlynedd.[2] Yn y DU, mae rhai wedi beirniadu'r ASBO gan ei welir fel "anrhydedd" gan rai pobl ifanc.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Asbos come into force on Monday. The Irish Times (29 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2008.
  2. 2.0 2.1  Geirfa. Barnwriaeth Cymru a Lloegr. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2008.
  3. (Saesneg) Asbos viewed as 'badge of honour'. BBC (2 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2008.

Cysylltiadau allanol golygu