Gorguro’r galon

Gorguro'r galon (neu camguro'r galon) yw unrhyw ddiffyg yng nghuriadau'r galon megis: curiadau rhy gyflym, rhy araf neu afreolaidd. Gall gael ei achosi gan angina; gall hefyd fodoli oblegid gorweithio, adrenalin, alcohol, caffin, cocên, amffetaminau a chyffuriau eraill, afiechyd neu banic. Gall hefyd ddgwydd mewn mitral stenosis.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae bron pob person yn ei brofi yn achlysurol, ond os digwydd yn rheolaidd gall fod yn arwydd o broblem ehangach, waelodol. Fe all fod yn arwydd o broblemau'n ymwneud â'r galon neu gydag anemia neu diffyg ar y theiroid.

Gall y gorguro ddigwydd am gyfnodau o eiliadau neu hyd yn oed oriau. Os ceir gorguro ynghyd â symptom arall megis chwysu, llewygu, poenau yn y fron neu benysgafndod yna mae cryn bosibilrwydd fod y broblem waelodol yn ymwneud â'r galon a dylid ymgynghori â'r meddyg.

Fe all y gorguro ymwneud â phroblemau seicolegol megis panic, ffobia, ordyndra (neu straen bywyd; Sa: stress) neu iselder ysbryd.

Gall gorguro'r galon hefyd ddigwydd pan fo claf yn colli gwaed, yn dioddef poen neu pan fo'n derbyn llai o ocsigen nag arfer.

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod camri, lafant, rhosmari, gwenynddail, saets y waun a ylang-ylang yn help i wella gorguro'r galon.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato