Gorsaf reilffordd Caerfyrddin

Mae gorsaf reilffordd Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen railway station) wedi ei lleoli i'r de o Afon Tywi ar gyrion tref Caerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Mae wedi ei lleoli ar Linell Gorllewin Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru, sy'n gweithredu y rhan fwyaf o'r trenau teithwyr sy'n gwasanaethu'r orsaf.

Gorsaf reilffordd Caerfyrddin
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1902 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.853°N 4.306°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN412196 Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafCMN Edit this on Wikidata
Rheolir ganKeolisAmey Cymru Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Rheilffordd De Cymru golygu

Yr orsaf bresennol yw'r drydedd i wasanaethu'r dref ac mae'n dyddio o 1902, er i brif reilffordd De Cymru o Abertawe i Neyland gyrraedd Caerfyrddin rhyw hanner can mlynedd ynghynt. Roedd yr orsaf wreiddiol hon wedi'i hadeiladu gydag ehangu tua'r gorllewin mewn golwg ac roedd wedi'i lleoli ar waelod gyffordd drionglog, hanner milltir i'r de o'r orsaf bresennol ac mewn lleoliad gwael i'r dref.

Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi golygu

Agorwyd ail orsaf (Tref Caerfyrddin) gan Reilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi ym 1860 ar ei thaith i'r gogledd i gyfeiriad Cynwyl Elfed a Phencader ac arhosodd hyn yn defnydd hyd nes y caiff yr orsaf bresenol ei disodli yn fuan ar ôl troad y ganrif. Fodd bynnag, roedd gorsaf y dref yn parhau i gael ei defnyddio ar gyfer traffig nwyddau wedi hynny ar ôl i ran olaf y rheilffordd gau ym mis Medi 1973, hyd nes i'r iard nwyddau gau tua 1981.

Ni chyrhaeddodd Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi, er gwaethaf ei henw, Aberteifi gan iddo gael ei adeiladu cyn belled â Chastell Newydd Emlyn yn unig. Gwasanaethwyd Aberteifi yn lle hynny gan Llinell Gangen droellog Hendy-gwyn ar Daf ac Aberteifi o Hendy-gwyn ar Daf, y brif cyffordd yn Sir Benfro. Fodd bynnag, cysylltodd y RC&A â Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau ym Mhencader, gan roi'r dref ar lwybr trwodd i Aberystwyth erbyn 1867.

Rheilffyrdd eraill golygu

Allfa arall i'r gogledd oedd cangen Rheilffordd Llanelli o Landeilo, a gyrhaeddodd Gyffordd Abergwili ym 1864 ac y cyrhaeddodd ei threnau orsaf y Dref trwy gyfrwng pwerau rhedeg ar ôl i'r Rheilffordd Llundain & De-Orllewin ei meddiannu ym 1873. Y cyswyllt olaf ychwanegwyd y gadwyn o linellau i'r gogledd ym 1911, pan agorwyd cangen o Lambed i Aberaeron gan Reilffordd Ysgafn Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron a Chei Newydd. Gweithiwyd hwn gan y Great Western Railway o'r cychwyn cyntaf, gan fod y cwmni erbyn hyn wedi amsugno'r llinellau eraill a grybwyllwyd.

Caeadau golygu

Nid oes yr un o'r llinellau i'r gogledd wedi goroesi, gyda'r rownd gyntaf o gaeadau wedi dechrau mor gynnar â Mai 1951 pan gollodd lein Aberaeron ei threnau teithwyr. Dilynodd lein Castell Newydd Emlyn yr un peth ym Medi 1952, tra aeth cangen Llandeilo ym Medi 1963, a'r lein i Aberystwyth ym mis Chwefror 1965.

Gadawodd hyn dim ond prif lein gwreiddiol Rheilffordd De Cymru i wasanaethu'r orsaf a'i gadael fel terfynfa ar ddiwedd ysbardun byr o'r brif lein lle mae'n rhaid i bob trên facio cyn parhau â'u teithiau.

Dim ond dau o'r pum platfform gwreiddiol yma sy'n cael eu defnyddio bellach, gyda'r mwyafrif o drenau'n defnyddio'r hen brif blatfform i lawr lle mae'r prif gyfleusterau wedi'u lleoli. Mae'r platfform gweithredol arall yn cael ei ddefnyddio pan fydd dau drên wedi'u hamserlennu i alw ar yr un pryd.

Rheilffordd Gwili golygu

Yn hanesyddol, parhaodd y lein i Aberystwyth a Llandeilo y tu hwnt i'r orsaf ar draws yr Afon Tywi heibio i safle'r iard nwyddau ac yna drwy doriad cyn belled a hen Gyffordd Abergwili.

Yna trodd lein Aberystwyth tua'r gogledd allan i Bronwydd Arms. O Gyffordd Abergwili tua'r gogledd, mae gwely trac y rheilffordd yn ailddechrau ac yn eiddio i Reilffordd Gwili sydd wedi'i chadw, sy'n rhedeg trenau ar hyd rhan o reilffordd Aberystwyth, trwy ddyffryn Afon Gwili, o Gyffordd Abergwili, trwy Bronwydd Arms a Llwyfan Cerrig, i gyn belled a Danycoed ar y ffordd, yn agos i Gynwyl Elfed.

Bwriad Rheilffordd Gwili yw adfer 312 milltir (6km) pellach o drac, eto gan ddilyn cwrs yr Afon Gwili, heibio Cynwyl Elfed ac ymhellach i fyny'r dyffryn i Lanpumpsaint.

Gwasanaethau golygu

I'r dwyrain, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd i Abertawe, Caerdydd Canolog, Crewe a Piccadilly Manceinion. Ar hyn o bryd mae Great Western Railway yn gweithredu chwe gwasanaeth y dydd (Llun-Sadwrn, 4 ar ddydd Sul) rhwng yr orsaf hon a Llundain Paddington. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau trên lleol i'r gorllewin wedi'u hamseru i gysylltu â gwasanaethau Llundain Paddington yn Abertawe neu Caerdydd Canolog.

I'r gorllewin, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaethau i Ddoc Penfro, Aberdaugleddau a Harbwr Abergwaun. Caerfyrddin yw terfynfa ddwyreiniol rhai o'r gwasanaethau hyn.

Gwasanaethau'r dyfodol golygu

Yn Rhagfyr 2022, cymeradwyodd yr ORR Grand Union i ddechrau gwasanaeth newydd o Paddington i Gaerfyrddin mewn partneriaeth â'r gweithredwr rheilffyrdd Sbaeneg, Renfe. Y bydd fflyd o drenau deufodd newydd yn cael eu defnyddio ar eu cyfer. Disgwylir i'r gwasanaeth newydd ddechrau ym mis Rhagfyr 2024. Bydd y gwasanaeth yn galw ym Mharcffordd Bryste, Cyffordd Twnnel Hafren, Casnewydd, Caerdydd Canolog, Tregŵyr a Llanelli ar y ffordd i Gaerfyrddin.

Corridor rheilfordd a môr i Iwerddon golygu

Mae rhai o drenau cychod Trafnidiaeth Cymru i ac o Harbwr Abergwaun yn gwasanaethu'r orsaf. Mae'r rhain yn cysylltu â fferi Stena Line i/o Rosslare Europort yn Iwerddon gyda gwasanaeth dyddiol yn y bore a gyda'r nos i'r ddau gyfeiriad. Mae'r llwybr hwn wedi bodoli ers 1906.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.