Gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst

Mae gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst (Saesneg: North Llanrwst railway station) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Llanrwst yn sir Conwy, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Dyffryn Conwy ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru. Enwau cynharach or orsaf oedd ‘Llanrwst a Threfriw’, ‘Llanrwst’ a ‘Llanrwst North’ (yn hytrach na ‘North Llanrwst’). Mae’r orsaf yr unig man pasio rhwng Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno a Gorsaf reilffordd Blaenau Ffestiniog. Mae adeilad yr orsaf yn un rhestredig (Gradd II).

Gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1868, 1863 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanrwst Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.144°N 3.803°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH795622 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafNLR Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru Edit this on Wikidata
Map
Platfformau ac adeiladau'r orsaf

Hanes golygu

Agorwyd yr orsaf ar 17 Mehefin 1863, yn derminws i Reilffordd Conwy a Llanrwst[1] Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin ym 1867. Estynnwyd y rheilffordd i Fetws-y-Coed ym 1869; symudwyd yr orsaf ar 6 Ebrill 1868 i hwyluso’r estyniad.

Cyfeiriadau golygu

  1. Butt, R.V.J. (1995). The Directory of Railway Stations. Yeovil: Patrick Stephens Ltd. t. 146. ISBN 1-85260-508-1. R508.CS1 maint: ref=harv (link)
  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.