Dinas sydd wedi'i lleoli yn nhalaith Shizuoka yng nghanolbarth Japan yw Gotemba (weithiau Gotenba) (Japaneg: 御殿場市 Gotenba-shi). Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Mynydd Fuji yn rhanbarth Chūbu o'r wlad.

Gotemba
Mathdinas Japan Edit this on Wikidata
Poblogaeth86,334 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Chwefror 1955 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBeaverton Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirShizuoka Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd194.9 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSusono, Fujinomiya, Fuji, Oyama, Hakone Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.30869°N 138.93461°E Edit this on Wikidata
Map
Mynydd Fuji a dinas Gotemba

Erbyn 2009, roedd gan y ddinas boblogaeth o 89,001 a dwysedd poblogaeth o 457 person i bob km². Cyfanswm arwynebedd y ddinas ydy 194.63 km².

Sefydlwyd y ddinas ar 11 Chwefror 1955. Mae iddi uchder o 250–600 medr, ac mae gan y ddinas hinsawdd fwyn, a nodweddir gan lawiad uchel (cyfartaledd o 3433 mm yn flynyddol). Yn wreiddiol, datblygodd y ddinas o ganlyniad i'w lleoliad ar linell rheilffordd Tōkaidō. Yn ystod y cyfnod cyn y rhyfel, roedd yn ganolfan filwrol flaenllaw ar gyfer Byddin Imperialaidd Japan, a cheir yno gyfleusterau milwrol ac ardal hyfforddi fawr ar gyfer Llu Hunan-Amddiffyn Tirol Japan hyd heddiw. Yn fwy diweddar, mae'r ardal wedi elwa o'i lleoliad ar yr Expressway Tōmei ac mae'n enwog am ei chyrsiau golff niferus a chanolfannau siopa mawrion.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato