Gradd academaidd yw gradd baglor sy'n gymhwyster a roddir ar ddiwedd cwrs israddedig sy'n para am dair blynedd fel rheol, ond gall bara rhwng 2 a 6 blynedd mewn rhai gwledydd.

Graddau anrhydedd ac arbenigrwydd golygu

O dan y system Brydeinig ddiweddaraf a'r systemau eraill sydd wedi cael eu dylanwadu ganddi, megis yng Nghanada, Iwerddon, Iorddonen, India, Maleisia, Malta, Sri Lanca, Singapôr, Hong Kong ac Awstralia, gwahaniaethir rhwng graddau fel gradd basio neu gradd anrhydedd.

Mae gradd anrhydedd yn gofyn am lefel academaidd uwch fel rheol, ac yn gofyn am flwyddyn ychwanegol o astudio ym Malta, Singapôr, Awstralia, Seland Newydd, yr Alban, Sri Lanca, Maleisia, De Affrica a rhai prifysgolion yng Nghanada.

Yng ngholegau polytechnig gwledydd Prydain roedd gradd anrhydedd yn galw am flwyddyn ychwanegol o astudio o'i gymharu â gradd arferol. Mae hyn yn wir yn yr Alban hefyd yn y gwahaniaeth rhwng graddau Meistr Celfyddydau a graddau anrhydedd Meistr o'r Celfyddydau (sy'n cyfateb i lefel academaidd graddau Baglor Celfyddydau yng Nghymru a Lloegr). Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau gradd yng Nghymru ac yn Lloegr yn gyrsiau gradd anrhydedd erbyn hyn, ac rhaid cwblhau modiwl arbennig er mwyn ennill yr anrhydedd.

  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato