Graham T. Allison

Gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd yw Graham Tillett Allison, Jr. (ganwyd 23 Mawrth 1940) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at ddadansoddiad biwrocrataidd gwneud penderfyniadau, yn enwedig yn ystod adegau argyfwng. Ers y 1970au mae Allison wedi bod yn ddadansoddwr blaenllaw ym meysydd diogelwch cenedlaethol a pholisi amddiffyn yr Unol Daleithiau, gyda sylw arbennig ar arfau niwclear a therfysgaeth.

Graham T. Allison
Yr Athro Graham T. Allison yn 2017.
GanwydGraham Tillett Allison, Jr. Edit this on Wikidata
23 Mawrth 1940 Edit this on Wikidata
Charlotte, Gogledd Carolina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd gwleidyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amEssence of Decision Edit this on Wikidata
Gwobr/auYsgoloriaeth Marshall, Dostyk Order of grade II, William and Katherine Estes Award Edit this on Wikidata

Ganed yn Charlotte, Gogledd Carolina. Mynychodd Goleg Davidson, coleg preifat yn Davidson, Gogledd Carolina, cyn iddo astudio am ei radd baglor ym Mhrifysgol Harvard. Derbyniodd radd baglor arall, a gradd meistr, o Goleg Hertford, Rhydychen. Dychwelodd i Harvard ac yno enillodd ei ddoethuriaeth mewn gwyddor gwleidyddiaeth ym 1968. Allison oedd deon Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy, Harvard, o 1977 i 1989. Wedi hynny, bu'n athro llywodraeth yn Ysgol Kennedy.

Ym 1971 cyhoeddwyd ei gyfrol enwocaf, Essence of Decision: Explaining the Cuban Missile Crisis (1971), dadansoddiad o benderfyniadau yn ystod argyfwng taflegrau Ciwba a gafodd cryn ddylanwad ar ddamcaniaeth penderfyniadau o fewn cysylltiadau rhyngwladol. Byddai'n cydweithio â Philip Zelikow i ddiweddaru ac ehangu'r llyfr ym 1999. Cyd-ysgrifennodd Allison a Peter Szanton y llyfr Remaking Foreign Policy: The Organizational Connection (1976), a gafodd effaith ar bolisi tramor gweinyddiaeth yr Arlywydd Jimmy Carter.

Gwasanaethodd Allison yn gynghorwr arbennig i Caspar Weinberger, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, o 1985 i 1987, yn ystod arlywyddiaeth Ronald Reagan. O 1993 i 1994, dan yr Arlywydd Bill Clinton, gweithiodd Allison i gydlynu strategaeth a pholisi'r Adran Amddiffyn tuag at gyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd yn ei swydd yn ysgrifennydd cynorthwyol dros bolisi a chynlluniau. Roedd hefyd yn aelod o'r Comisiwn ar Atal Amlhau Arfau Dinistriol a Therfysgaeth.