Grand Erg Oriental

Ardal eang o anialwch yng ngogledd-ddwyrain y Sahara, Gogledd Affrica yw'r Grand Erg Oriental (Arabeg: العرق الشرقي الكبير sef "Erg Mawr y Dwyrain"). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain Algeria a de Tiwnisia. Ystyr erg yw "anialwch tywodlyd".

Grand Erg Oriental
Matherg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAlgeria, Tiwnisia, Libia Edit this on Wikidata
Arwynebedd190,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr280 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30°N 6°E Edit this on Wikidata
Hyd600 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'n ymestyn dros 190,000 km² o dir gyda hyd a lled o tua 500 – 300 km. Tirwedd o dywynnau mawr a thywod a geir yn y rhan fwyaf o'r Erg, sy'n cyrraedd uchder o hyd at 250 meter. Mae'r tywod yn aml o liw coch trawiadol. Rhyngddo a'r Grand Erg Occidental, llai na hanner ei faint, ceir llwyfandir carregog a llynnoedd hallt, yn cynnwys Chott el-Jerid.

Brithir wyneb y Grand Erg Oriental gan werddonau yn ei rhannau deheuol. Yn Nhiwnisia, y gwerddonau mwyaf yw Douz, Tozeur a Nefta, ac yn Algeria ceir El-Oued a Touggourt. Er gwaethaf y tirwedd a'r hinsawdd, mae rhwydwaith o lwybrau carafan hynafol yn ei groesi, a fu'n rhan o rwydwaith ehangach a gysylltai'r Maghreb a gorllewin Affrica. Heddiw mae twristiaeth yn datblygu mewn rhannau o'r anialwch hefyd, yn enwedig yn nhalaith Tataouine yn Nhiwnisia.

Gweler hefyd golygu