Gwlad ac ynys yn ne-ddwyrain y Môr Caribî yw Grenada (Ffrangeg: La Grenade), sy'n cynnwys y brif ynys Grenada o chwe ynys lai. Mae'r wlad yn cynnwys ynysoedd mwyaf deheuol y Grenadines megis Carriacou, Petit Martinique ac Ynys Ronde. St. George's yw prifddinas y wlad. Fe'i lleolir yn yr Antilles Lleiaf rhwng Saint Vincent a'r Grenadines i'r gogledd a Trinidad a Tobago i'r de yn neddwyrain Môr y Caribî.

Grenada
ArwyddairEver Conscious of God We Aspire, Build and Advance as One People Edit this on Wikidata
Mathteyrnas y Gymanwlad, gwladwriaeth, ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth archipelagig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGranada Edit this on Wikidata
Lb-Grenada.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Grenada.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasSt. George's Edit this on Wikidata
Poblogaeth114,299 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1974 Edit this on Wikidata
AnthemHail Grenada Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKeith Mitchell Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00, America/Grenada Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Creol Saesneg Grenada Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAntilles Leiaf, Windward Islands, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, y Caribî Edit this on Wikidata
GwladBaner Grenada Grenada
Arwynebedd348.5 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFeneswela Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.11667°N 61.66667°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Granada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Grenada Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Grenada Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKeith Mitchell Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,123 million, $1,256 million Edit this on Wikidata
ArianDoler Dwyrain y Caribî Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.149 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.795 Edit this on Wikidata

Torrodd yn rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig ar 7 Chwefror 1974.

Mae'r ynys yn enwog am ei sbeisiau, yn enwedig nytmeg.

St. George's, prifddinas Grenada.

Hanes golygu

Ffurfiwyd Grenada o losgfynydd tanddwr dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl.

Cyn dyfod Ewropeaid, gwladychwyd yr ynys gan y Caribs, wedi iddynt ymlid yr Arawaks oddi yno. Cafodd Christopher Columbus gip o'r ynys ar ei ffordd i'r Byd Newydd yn 1498.

Cyrhaeddodd 203 o Ffrancwyr o'r Martinique yn 1649, dan arweiniad Jacques du Parquet gan aros yma. Bu brwydro yn erbyn y brodorion hyd at 1654, pan oresgynwyd yr ynys yn gyfangwbwl gan y Ffrancwyr. Tiriogaeth Ffrengig ydoedd, felly rhwng (1649–1763).

Rhwng 1763–1974 disodlwyd y Ffrancwyr gan Saeson, a rhoddwyd stamp ar hynny yng Nghytundeb Paris yn 1763. Ailfeddianwyd yr ynys gan y Ffrancwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, gyda'r Ffrancwr Comte d'Estaing yn llwyddo ar y tir a'r 'Frwydr y Llynges Dros Grenada' yng Ngorffennaf 1779. Fodd bynnag, dychwelwyd yr ynys i Brydain yng Nghytundeb Versailles, 1783.

Crefydd golygu

Mae 44.6% o'r boblogaeth yn Babyddion a 43.5% yn Brotestaniaid.

Iaith golygu

Er mai'r Saesneg yw iaith swyddogol y wlad ceir dwy iaith o'r teulu Creol: y Creol Grenadaidd Saesneg a'r Creol Grenadaidd Ffrengig.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Grenada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.