Un o frenhinoedd chwedlonol Tibet oedd Gri-gum btsan-po. Er ei fod yn ymddangos mewn rhestri traddodiadol o frenhinoedd (neu ymerodron) Tibet, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei fod yn frenin cig a gwaed. Cafodd ei lofruddio gan ei weinidog Lo-ngam ar ôl iddo herio eu deiliaid.

Yn ôl traddodiad, cafodd ei enw (gri 'cyllell' a gum 'lladd') oherwydd i hen wasaenyddes yn y llys gamglywed y cwestiwn pan ofynwyd iddi ddewis enw i'r baban brenhinol. Roedd yn enw a ragolygai'n wael iddo.

Hyd at amser Gri-gum btsan-po, yn ôl hanes traddodiadol Tibet, roedd brenhinoedd y wlad wedi aros trwy gydol eu hoes ynghlwm wrth y dmu-thag, y rhaff y disgynasant o'r nefoedd arni. Yn eu henoed, ni byddent yn marw ond yn ail-esgyn i'r nefoedd ar hyd y rhaff honno. Ond un diwrnod torrodd Lo-ngam, gweinidog Gri-gum btsan-po, y rhaff gyda'i gyllell, gan ladd y brenin a dod â chyfnod y brenhinoedd dwyfol i ben, oherwydd ni chafwyd brenin arall o'r nefoedd i gymryd lle Gri-gum btsan-po a meidrolion a reolodd Tibet ar ei ôl ef.

Gweler hefyd golygu