Gronant

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gronant[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif tua milltir o arfordir gogledd Cymru yng nghornel gogledd-orllewinol eithaf y sir, bron ar y ffin â Sir Ddinbych. Mae'n gorwedd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Gwesbyr a Talacre i'r dwyrain.

Gronant
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.339°N 3.365°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ091833 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Tu ôl i'r pentref mae nant yn codi i'r Graig Fawr, y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae lôn dan bont ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn arwain o'r pentref i'r traeth a'r tywynnau sy'n ymestyn o Brestatyn i'r Parlwr Du.

Ar y traeth gerllaw Gronant, ceir yr unig fan lle mae'r Fôr-wennol fechan yn nythu yng Nghymru. Mae'r nythod yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr.

Traeth Gronant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato