Tref hynafol a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Gubbio. Fe'i lleolir yn nhalaith Perugia yn rhanbarth Umbria. Saif ar lethr isaf Mynydd Ingino, mynydd bach yn yr Apenninau.

Gubbio
Mathcymuned Edit this on Wikidata
PrifddinasGubbio Edit this on Wikidata
Poblogaeth30,479 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Wertheim, Thann, Salon-de-Provence, Viterbo, Nola, Godmanchester, Szentendre, Jessup Edit this on Wikidata
NawddsantUbaldo Baldassini Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Perugia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd525.78 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr522 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCagli, Costacciaro, Gualdo Tadino, Pietralunga, Sigillo, Valfabbrica, Cantiano, Perugia, Scheggia e Pascelupo, Umbertide, Fossato di Vico Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3518°N 12.5773°E Edit this on Wikidata
Cod post06024, 06020 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Gubbio Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 32,432.[1]

Hanes golygu

Mae gwreiddiau'r dref yn hynafol iawn. Roedd yn anheddiad bwysig i lwyth yr Wmbri, o dan yr enw Ikuvium yn y cyfnod cyn-Rufeinig. Yn 1444 darganfuwyd yno tabledi efydd, y Tabledi Igufaidd, sy'n cynnwys y testun mwyaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Wmbreg.

Ar ôl y goncwest Rufeinig yn yr 2g CC parhaodd y dref yn bwysig, fel y tystiwyd gan ei theatr Rufeinig, yr ail-fwyaf yn y byd i oroesi. Ei henw Lladin oedd Iguvium.

Daeth Gubbio yn bwerus iawn ar ddechrau'r Oesoedd Canol. Anfonodd y dref 1,000 o farchogion i ymladd yn y Groesgad Gyntaf (1096–9). Roedd y canrifoedd dilynol yn gythryblus, ac roedd Gubbio yn rhyfela yn aml yn erbyn trefi cyfagos. Yn un o'r rhyfeloedd hyn ei esgob, Ubaldo Baldassini (c.1084–1160) a arweiniodd fyddin y dref (trwy wyrth yr honnwyd) i fuddugoliaeth ysgubol (1151) a chyfnod o ffyniant i'r dref. Ef bellach yw nawddsant y dref, a bob blwyddyn y mae gwyl fawr (Corsa dei Ceri) ar noswyl ei ddygwyl ar 16 Mai.

Yn y pen draw ymgorfforwyd Gubbio i diriogaethau teulu Montefeltro, dugiaid Urbino. O 1631 hyd 1860 roedd yn rhan o Daleithiau'r Babaeth.

Chwedl Sant Ffransis a'r Blaidd golygu

Mae'r dref yn adnabyddus am chwedl Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd rheibus a chodai arswyd ar y dref, ond a ddaeth wedyn yn breswylydd hydrin y lle.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Tachwedd 2022


Oriel golygu