Paentiad olew ar gynfas gan Pablo Picasso yw Guernica (1937), efallai yr enwocaf o'i ddarluniau.

Guernica
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrPablo Picasso Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1937 Edit this on Wikidata
Genrepeintio hanesyddol Edit this on Wikidata
LleoliadMuseo Nacional Centro de Arte Reina Sofía Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint, dan hawlfraint Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Murlun yn hawlio'r llun o Amgueddfa Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía yn ôl i Gernika
Cofeb ar y ty ym Mharis lle paentiodd Picasso y llun "Guernica"

Ar 26 Ebrill 1937 bomiwyd tref Gernika yng Ngwlad y Basg gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Francisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Pan gomisiynwyd Picasso gan Lywodraeth Weriniaethol Sbaen i greu murlun ar gyfer Ffair y Byd ym Mharis yn 1937, ysbrydolwyd ef i gymeryd y digwyddiad hwn fel pwnc. Mae'n ymdrech i gyfleu erchylltra'r digwyddiad mewn symbolau.

Am flynyddoedd, bu Guernica yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern yn Efrog Newydd. Dychwelwyd ef i Sbaen yn 1981, ac arddangoswyd ef yn y Casón del Buen Retiro ym Madrid. Yn 1992 symudwyd y darlun i'r Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía, hefyd ym Madrid, lle mae ar hyn o bryd. Cred cenedlaetholwyr Basgaidd y dylai fod yn cael ei arddangos yng Ngwlad y Basg.

Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.