Gus Van Sant

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Louisville yn 1952

Cyfarwyddwr, sgriptiwr, ffotograffydd, cerddor ac awdur Americanaidd yw Gus Green Van Sant, Jr. (ganed 24 Gorffennaf 1952). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am Gyfarwyddo Good Will Hunting (1997) ac am ei ffilm Milk (2008). Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2003 am ei ffilm Elephant. Mae'n byw ym Mhorland, Oregon.

Gus Van Sant
GanwydGus Green Van Sant, Jr. Edit this on Wikidata
24 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Louisville Edit this on Wikidata
Man preswylPortland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ddylunio Rhode Island
  • Catlin Gabel School
  • Darien High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, ffotograffydd, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, actor, cerddor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auPalme d'Or, Gwobr Cyfarwyddwr Gorau Cannes Edit this on Wikidata

Dechreuodd ei yrfa yn cyfarwyddo hysbysebion ar gyfer y teledu. Ers hynny, mae ef wedi ymdrin â themâu fel rhywioldeb dynol ac îs-ddiwylliannau cymdeithasol mewn modd diflewyn ar dafod. Mae ef ei hun yn ddyn hoyw sydd wedi dod allan.

Mae ei ffilmograffiaeth fel ysgrifennydd a chyfarwyddwr yn cynnwys addasiad o nofel Tom Robbins. Even Cowgirls Get The Blues. Roedd y cast yn cynnwys trawsdoriad eang o actorion, yn amrywio o Keanu Reeves, Roseanne Barr, Uma Thurman, a k.d. lang. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys My Own Private Idaho, a oedd hefyd yn serennu Kneanu Reeves a'r diweddar River Phoenix. (Roedd Van Sant hefyd yn bwriadu cyfarwyddo ffilm fywgraffiadol am fywyd Andy Warhol gyda Phoenix yn chwarae'r prif ran, ond canslodd y prosiect ar ôl marwolaeth Phoenix).

Bywyd cynnar golygu

Ganed Van Sant yn Louisville, Kentucky, yn fab i Betty (née Seay) a Gus Green Van Sant, Sr; roedd ei dad yn wneuthurwr dillad[1] ac yn werthwr teithiol a weithiodd yn galed a buan y cododd i'r dosbarth canol, gan ddal swyddi gweithredol yn y maes marchnata, gan gynnwys llywyddiaeth adran ddillad White Stag Manufacturing Company.[2] Symudodd teulu Van Sant o gwmpas llawer yn ystod ei blentyndod oherwydd gyrfa ei dad.

Daw teulu ei dad yn rannol o dras Iseldiraidd, mae'r enw "Van Sant" yn tarddu o'r enw Iseldireg "Van Zandt". Cyrrhaeddodd y Van Zandt cyntaf i ardal yr Iseldiroedd Newydd yn ystod yr 17g cynnar, o amgylch lle mae Dinas Efrog Newydd heddiw.[3]

Mynychodd Van Sant Darien High School yn Darien, Connecticut,[4] a The Catlin Gabel School yn Portland, Oregon.[5] Bu â diddordeb yn y celfeddydau gweledol yn gyson ers oedran cynnar (paentio a ffilmiau Super-8 yn benodol); dechreuodd greu ffiliau byr a oedd yn rhannol-hunangofiannol tra roedd dal yn yr ysgol, gan gostio rhwng 30 a 50 doler i'w cynhyrchu. Gan ddilyn ei ddiddordebau celfyddydol, aeth Van Sant ymlaen i astudio yn Rhode Island School of Design ym 1970, ble cafodd ei gyflwyno i nifer o gyfarwyddwyr avant-garde, ac ysbrydolwyd ef i newidsail ei astudiaethau o baentio i sinema.[6]

Ffilmograffiaeth golygu

Ffilmiau llawn golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. film reference (2012). "Gus Van Sant Biography (1952?-)". film reference. Advameg, Inc. Cyrchwyd August 15, 2012.
  2. "Changes in Management Disclosed by White Stag". The Oregonian. Portland, Oregon. December 5, 1969. Section 1, p. 39.
  3. [1]
  4. "Darien High School". Public School Review. Public School Review. 2003–2012. Cyrchwyd September 24, 2012.
  5. "Gus Van Sant- Biography". Yahoo! Movies. Yahoo!, Inc. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-23. Cyrchwyd September 24, 2012.
  6. Marx, Rebecca Flint. "Gus van Sant Biography". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-24. Cyrchwyd 2017-09-13.