Gwalchwyfyn pum smotyn

Manduca quinquemaculatus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Sphingidae
Genws: Manduca
Rhywogaeth: M. quinquemaculata
Enw deuenwol
Manduca quinquemaculata
(Haworth, 1803)[1]
Cyfystyron
  • Sphinx 5-maculatus Haworth, 1803
  • Phlegethontius quinquemaculatus
  • Protoparce quinquemaculatus
  • Phlegethontius celeus Hübner, 1821
  • Protoparce quinquemaculatus wirti Schaus, 1927

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Sphingidae yn urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn pum smotyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod pum smotyn; yr enw Saesneg yw Five-spotted Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Manduca quinquemaculatus.[2][3] Caiff ei adnabod yn Saesneg yn aml fel tomato hornworm, gan ei fod yn llarpio dail y planhigyn tomato ac yn cael ei ystyried yn bla. Weithiau mae'n cael ei gamadnabod fel y Manduca sexta (neu'r tobacco hornworm) sy'n difa planhigion tobaco ac yn perthyn yn agos i'r walchwyfyn pum smotyn. Yn wir, mae'r ddau rywogaeth i'w gweld ar y naill blanhigyn neu'r llall, felly ni dylid edrych ar eu lliwiau yn hytrach na'r planhigyn wrth geisio eu hadnabod e.e. mae gan siani flewog y gwalchwyfyn pum smotyn wyth marc siap "V" yn hytrach na saith ar ei ochr; mae nifer y sbotiau ar adenydd yr oedolyn hefyd yn ddull hawdd o wahaniaethu: dim ond pum smotyn sydd gan y quinquemaculata fel yr awgryma ei enw.[4]

Cynefin golygu

Mae'r M. quinquemaculata i'w ganfod ar hyd a lled Unol Daleithiau America a thrwy ogledd-orllewin Mecsico ac yn ne Canada.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn pum smotyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. "CATE Creating a Taxonomic eScience - Sphingidae". Cate-sphingidae.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-03. Cyrchwyd 2011-11-01.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. Villanueva, Raul (1998). "Tobacco Hornworm". Cyrchwyd 2006-10-21. Unknown parameter |month= ignored (help)