Gwanwyn Prag

(Ailgyfeiriad o Gwanwyn Prâg)

Roedd Gwanwyn Prag (Tsieceg: Pražské jaro, Slofaceg: Pražská jar) yn gyfnod o wleidyddiaeth gynyddol ryddfrydol a phrotestio torfol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Tsiecoslofacia. Dechreuodd ar 5 Ionawr 1968, pan etholwyd y diwygiwr Alexander Dubček yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia (KSČ), a pharhaodd tan 21 Awst 1968, pan oresgynnodd yr Undeb Sofietaidd (a'r mwyafrif o aelodau Cytundeb Warsaw) y wlad i atal y diwygiadau hyn. Aelodau Cytundeb Warsaw yr adeg honno oedd Gwlad Pwyl, Hwngari, Dwyrain yr Almaen a Bwlgaria. Aeth y myfyriwr Jan Palach ati i losgi ei hunan i farwolaeth ar 16 Ionawr 1969 mewn brotest yn erbyn y goresgyniad.

Gwanwyn Prag
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad hanesyddol Edit this on Wikidata
Dyddiad1968 Edit this on Wikidata
Rhan ohanes Tsiecoslofacia Edit this on Wikidata
LleoliadTsiecoslofacia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd diwygiadau Gwanwyn Prag yn ymgais gref gan Dubček i roi hawliau ychwanegol i ddinasyddion Tsiecoslofacia mewn gweithred o ddatganoli rhannol o'r economi a democrateiddio. Roedd y rhyddid a roddwyd yn cynnwys llacio cyfyngiadau ar y cyfryngau, rhyddid barn a theithio. Ar ôl trafodaeth genedlaethol ar rannu'r wlad yn ffederasiwn o dair gweriniaeth, sef Bohemia, Morafia-Silesia a Slofaciagoruchwyliodd Dubček y penderfyniad i rannu'n ddwy, y Weriniaeth Sosialaidd Tsiec a Gweriniaeth Sosialaidd Slofacia.[1] Y ffederasiwn deuol hwn oedd yr unig newid ffurfiol a oroesodd y goresgyniad.

Ni chafodd y diwygiadau, yn enwedig datganoli awdurdod gweinyddol, dderbyniad da gan y Sofietiaid, a anfonodd hanner miliwn o filwyr Cytundeb Warsaw a thanciau i feddiannu'r wlad, ar ôl trafodaethau aflwyddiannus. Dyfynnodd y New York Times adroddiadau am 650,000 o ddynion Sofietaidd gyda'r arfau mwyaf modern a soffistigedig.[2] Ysgubodd ton enfawr o ymfudwyr yn ffoi o'r wlad. Cynyddwyd gwrthwynebiad y Tsiecoslafaciaid ledled y wlad, gan gynnwys difrodi arwyddion strydoedd, herio'r hwyrglychau ac ati. Cafwyd gweithredoedd treisgar yma-ac-acw a nifer o hunanladdiadau protest trwy hunanlosgi (yr enwocaf oedd y myfyriwr ifanc Jan Palach), ond dim gwrthwynebiad milwrol. Parhaodd Tsiecoslofacia yn dalaith lloeren Sofietaidd tan 1989 pan roddodd y Chwyldro Felfed ddiwedd heddychlon ar y gyfundrefn gomiwnyddol; gadawodd y milwyr Sofietaidd olaf y wlad yn 1991.

Ar ôl y goresgyniad, aeth Tsiecoslofacia i gyfnod a elwir yn normaleiddio, lle ceisiodd arweinwyr newydd adfer y gwerthoedd gwleidyddol ac economaidd a oedd wedi bodoli cyn i Dubček ennill rheolaeth ar y KSČ. Roedd Gustáv Husák, a ddisodlodd Dubček fel Prif Ysgrifennydd ac a ddaeth hefyd yn Llywydd, wedi gwrthdroi bron pob un o'r diwygiadau. Ysbrydolodd Gwanwyn Prag gerddoriaeth a llenyddiaeth newydd gan gynnwys gwaith Václav Havel, Karel Husa, Karel Kryl a nofel Milan Kundera Nesnesitelná lehkost bytí a droswyd i'r Saesneg dan y teitl The Unbearable Lightness of Being.

Alexander Dubček
Tanciau Sofietaidd yn 1968

Y goresgyniad Sofietaidd golygu

Gan fod y trafodaethau yn anfoddhaol, dechreuodd y Sofietiaid ystyried dewis grym milwrol. Daeth polisi Sofietaidd o orfodi llywodraethau sosialaidd ei gwladwriaethau lloeren i ddarostwng eu buddiannau cenedlaethol i rai'r Bloc Dwyreiniol (trwy rym milwrol os oedd angen) yni'w adnabod fel Athrawiaeth Brezhnev.[3] Ar noson 20–21 Awst, goresgynnodd byddinoedd Cytundeb y Dwyrain y ČSSR gan deithio yno o bedair gwlad Cytundeb Warsaw—yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria, Gwlad Pwyl a Hwngari.[4]

Y noson honno, daeth 165,000 o filwyr a 4,600 o danciau i mewn i'r wlad.[5] Meddiannwyd Maes Awyr Rhyngwladol Ruzyně yn gyntaf, a hedfanodd rhagor o filwyr yno, i'r maes awyr. Cyfyngwyd lluoedd Tsiecoslofacia i'w barics, y rhai oedd wedi eu hamgylchynu hyd nes y tawelwyd y bygythiad o wrthymosodiad. Erbyn bore 21 Awst roedd Tsiecoslofacia wedi'i meddiannu heb fawr o wrthwynebiad.

Gwrthododd Romania ac Albania gymryd rhan yn y goresgyniad.[6] Ni ddefnyddiwyd milwyr Dwyrain yr Almaen oherwydd goresgyniad y Natsïaid yn 1938.[7] Yn ystod y goresgyniad, lladdwyd cyfanswm o 72 o Tsieciaid a Slofaciaid (19 o'r rhai yn Slofacia), clwyfwyd 266 yn ddifrifol a 436 arall gyda mân anafiadau.[8][9] Galwodd Alexander Dubček ar ei bobl i beidio â gwrthsefyll.[9] Serch hynny, roedd gwrthwynebiad gwasgaredig ar y strydoedd. Peintiwyd arwyddion ffyrdd mewn trefi ac eithrio'r rhai a oedd yn nodi'r ffordd i Moscow.[10] Ailenwodd sawl pentref eu hunain yn "Dubček" neu'n "Svoboda"; felly, heb ddull i nafigeiddio, dryswyd y goresgynwyr yn aml.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. Czech radio broadcasts 18–20 August 1968
  2. "New York Times September 2, 1968".
  3. Chafetz (1993), p. 10
  4. Ouimet (2003), pp. 34–35
  5. Communist Czechoslovakia, 1945–1989: A Political and Social History. Kevin McDermott. European History in Perspective. pp 145.
  6. Curtis, Glenn E. "The Warsaw Pact". Federal Research Division of the Library of Congress. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 February 2008. Cyrchwyd 19 February 2008.
  7. "Der 'Prager Frühling'". Bundeszentrale für politische Bildung. 9 May 2008.
  8. "Springtime for Prague". Prague Life. Lifeboat Limited. Cyrchwyd 30 April 2006.
  9. 9.0 9.1 Williams (1997), p. 158
  10. See Paul Chan, "Fearless Symmetry" Artforum International vol. 45, March 2007.
  11. "Civilian Resistance in Czechoslovakia". Fragments. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-24. Cyrchwyd 5 January 2009.