Mewn ffiseg, mae gwanychiad yn effaith sy'n lleihau osgled osgiliadur mewn system osgiliadol, yn enwedig yr osgiliadur harmonig. Mae yna nifer o ffactorau sy'n achosi gwanychiad:

  • Ffrithiant: Mae ffrithiant o fewn y sbring yn achosi gwanychiad. Mae'r egni osgilio yn cael ei golli fel gwres wrth i'r sbring ymestyn a chyfangu.
  • Gwrthiant aer: Mae'r grym gwrthiant aer yn gweithio yn erbyn y corff wrth iddo symud ac felly yn lleihau pob osgiliad dros amser.
  • Hysteresis: Gall difrod i'r sbring achosi newid i'r gyfradd gwanychiad.
Gwanychiad
Mathosgiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sbring yn gwanychu.

Mae yna nifer o enghreifftiau o fewn bywyd pob dydd lle mae gwanychu yn dderbyniol neu yn annerbyniol. Nid yw gwanychiad yn ddymunol mewn pendil cloc gan fydd angen weindio'r cloc i fynnu’n amlach. Ar y llaw arall mae angen gwanychiad mewn system hongiad car i afradloni unrhyw drawiadau yn gyflym ac yn effeithiol heb gael effaith ar reolaeth y cerbyd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.