Gwenci
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Mustela
Rhywogaeth: M. nivalis
Enw deuenwol
Mustela nivalis
Linnaeus, 1766

Mamal cigysol bach o deulu'r Mustelidae yw'r Wenci neu Fronwen (Mustela nivalis). Mae'n byw mewn ffermdir, glaswelltir a choetir yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Mae'n bwydo ar famaliaid bychain megis llygod ac ar adar a'u hwyau. Mae'r corff a phen yn 13–23 cm o hyd ac mae'r gynffon yn 3–6 cm. Mae ei ffwr yn gochfrown ar y cefn ac yn wyn ar y bol. Mae'n debyg i'r Carlwm ond yn llai ac mae ganddi gynffon fyrrach heb flaen du.

Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.