Gwisg Gymreig draddodiadol

Defnyddir y term gwisg Gymreig draddodiadol i gyfeirio at y wisg "draddodiadol" i ferched sy'n seiliedig ar wisg bob dydd y werin ond a ddyfeiswyd mewn gwirionedd yn y 19g. Roedd hynny'n rhan o ymgais fwriadol yng Nghymru, fel mewn sawl gwlad arall yn Ewrop yn y cyfnod hwnnw, i greu symbol cenedlaethol.

Dwy droellwraig yng nghefn gwlad Cymru mewn gwisg draddodiadol, tua 1890-1900.

Mae'r wisg Gymreig yn cynnwys pais a ffedog, betgwn neu fantell (siôl bersli yn aml), a het dal ddu. Roedd gwisg o'r math yn gyffredin yng Nghymru - ac mewn rhannau o Loegr hefyd - yn yr 17g ac fe oroesodd yn hir mewn rhannau o gefn gwlad Cymru. Cymerodd Arglwyddes Llanofer (Augusta Waddington Hall) y gwisgoedd hyn yn sail i wisg genedlaethol i ferched Cymru a fyddai'n hybu diwydiant gwlân Cymru a hefyd yn denu artistiaid a thwristiaid. Detholodd Arglwyddes Llanofer rai nodweddion amlwg o'r hen wisgoedd a'u gweddnewid rhywfaint yn ôl ei syniadau Rhamantaidd a'r canlyniad oedd y Wisg Gymreig gyfarwydd a welir heddiw, gyda'r fantell goch a'r het ddu hynod o dal.

Daeth y Wisg Gymreig yn boblogaidd fel symbol o Gymru ond daeth yn fath o ddigriflun hefyd, yn enwedig yn achos ffigwr 'Yr Hen Gymraes' neu Dame Wales, ffrwyth dychymyg golygwyr y Punch Cymraeg.

Erbyn heddiw dim ond ar achlysuron arbennig y gwelir y wisg hon fel rheol, er enghraifft gan blant ysgol ar Ŵyl Ddewi. Fel arall mae'n gyfyngedig i atyniadau twristaidd a chardiau post.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu