Gwlyptiroedd Casnewydd

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn ne-ddwyrain Cymru yw Gwlyptiroedd Casnewydd (Saesneg: Newport Wetlands). Saif ar lan aber Afon Hafren, i'r de-ddwyrain o ganol dinas Casnewydd, rhwng Aberwysg, Trefonnen ac Allteuryn. Fe'i rheolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth a'r RSPB a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 26 Mawrth 2010 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 374.17 hectar.

Gwlyptiroedd Casnewydd
Mathparc, gwlyptir, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd374.17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.546°N 2.961°W, 51.541725°N 2.945263°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Disgrifiad golygu

Sefydlwyd y warchodfa, sy'n 1,079 acer (437 hectar) o arwynebedd, yn 2000, gyda'r bwriad o ddarparu cynefin i wrthweithio colli Bae Caerdydd, oedd yn cael ei droi'n llyn dŵr croyw gydag adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Agorodd yr RSPB Ganolfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr ym mis Mawrth 2008, ac fe ddynodwyd Gwlyptiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ar 16 Ebrill 2008.

Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru o rai o wlyptiroedd Cymru.

Sefydlwyd y warchodfa ar gyfer adar yn bennaf. Erbyn hyn, mae nifer o rywogaethau sy'n eithaf prin yng Nghymru wedi eu cofnodi yno, megis y Cambig, Telor Cetti, y Rhegen Ddŵr a’r Titw Barfog. Ymysg rhywogaethau sy'n magu yno mae'r Gornchwiglen, Pioden y Môr, Cwtiad torchog, Cwtiad torchog bach a'r Pibydd coesgoch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu