Modd o glymu darnau o ddefnydd, lledr, ffwr, rhisgl neu ddeunydd arall hyblyg at ei gilydd gan ddefnyddio nodwydd ac edau o rhyw fath yw gwnïo, pwytho neu teilwriaeth . Mae'r dull yn gyffredin i brop pob poblogaeth dynol ers yr oes Paleolithig (30,000 BCE). Mae gwnïo yn ôl ddyddio gwehyddu defnydd.

William-Adolphe Bouguereau (1825-1905), Merch yn gwnïo (tua 1896)

Defnyddir gwnïo yn bennaf er mwyn creu dillad a dodrefn meddal ar gyfer y cartref, megis lleni, dillad gwely, clustogwaith a llieiniau bwrdd. Defnyddir hefyd ar gyfer creu hwyliau, baneri, pebyll ac eitemau eraill sydd wedi eu gwneud allan o ddeunyddiau hyblyg megis cynfas neu ledr. Cwblheir y rhanfwyaf o wnïo diwydiannol gan ddefnyddio peiriannau gwnïo.

Hen benillion golygu

Ceir nifer o hen benillion sy'n sôn am y grefft o wnio:

Maen nhw'n dwedyd yn Llanrhaead
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad,
A'r rheswm pam ddaw golau drwyddo? -
Ei fod heb orffen cael ei bwytho!
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf a chrefft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.