Mae'r George Foster Peabody Awards, sy'n cael eu hadnabod gan amlaf fel y Gwobrau Peabody, yn seremoni gwobrwyo blynyddol i ddathlu rhagoriaeth ym maes darlledu radio a theledu'n rhyngwladol. Cawsant eu cyflwyno am y tro cyntaf ym 1941 i raglenni o'r flwyddyn flaenorol a chânt eu hystyried y gwobrau hynaf ar gyfer y cyfryngau electronig. Gweinyddwyd y gwobrau gan Goleg Henry W. Grady ar gyfer Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Torfol ym Mhrifysgol Georgia. Enwyd y gwobrau ar ôl y gŵr busnes a'r dyngarwr George Foster Peabody. Fel rhan o'i weithgareddau o gynorthwyo achosion da, rhoddodd Peabody yr arian angenrheidiol er mwyn cynnal y seremoni wobrwyo.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato