Gwrthdaro Israel-Libanus

Mae'r Gwrthdaro Israel-Libanus yn parhau ers dros hanner canrif ac yn rhan o'r gwrthdaro ehangach hwnnw rhwng Israel a'i chymdogion, sef gwrthdaro Arab-Israelaidd. Daeth byddinoedd y ddwy wlad ben-ben a'i gilydd ar sawl achlysur, gan gynnwys Rhyfel Libanus 2006 pan laddwyd dros fil o bobl Libanus gan Lu Awyr Israel. Ar adegau, mae grwpiau militaraidd mewnol hefyd yn rhan o'r gwrthdaro.

Gwrthdaro Israel-Libanus
Enghraifft o'r canlynolinternational conflict, gwrthdaro arfog Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthdaro Arabaidd-Israelaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 g Edit this on Wikidata
LleoliadLefant Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRhyfel Libanus 2006, list of projectile attacks from Lebanon on Israel and the Golan Heights Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Recriwtiodd y PLO (sef y 'Palestine Liberation Organization') o deuluoedd y ffoaduriaid a ddihangodd ar Al Nakba, neu Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية‎, al-Hijra al-Filasteeniya) pan hawliodd Israel eu tir yn 1948. [1]

Erbyn 1968 roedd ymosodiadau gan Israel a gan y PLO ar draws y ffiniau, a hynny gan darfu ar sofraniaeth Libanus.[2]

Ar ôl diarddel arweinyddiaeth y PLO a'r grŵp Fatah o Iorddonen am greu gwrthryfel, daethant i mewn i Libanus a chynyddodd yr ymosodiadau dros ffiniau'r ddwy wlad. Cafwyd gwrthryfel yn Libanus rhwng 1975 ac 1990.[3]

Lansiodd Israel ymgyrch o'r enw "Operation Litani" gan ymosod o ddifri ar Libanus yn 1978; ond methodd hyn â lleihau effeithiolrwydd ymosodiadau'r Palesteiniaid. Ymosododd Israel eto ar Lebanon yn 1982 gan daflu arweinyddion y PLO allan o'r wlad. Yn 1985 galwodd mudiad a oedd yn cael ei ariannu gan Iran, sef Hezbollah ar Israel i dynnu allan o Libanus[4] Byddin De Libanus a'r hezbollah oedd yn ymladd gyda byddin Israel, a gwrthododd y ddau i ddiarfogi. Yn 2000, er i Fyddin De Libanus ddatgymalu, dychwelodd byddin Israel yn ôl at y ffin.[5]

Am y chwe mlynedd nesaf, bu i Hezbollah barhau gyda'u hymosodiadau ar Israel dros y ffin gan gychwyn brwydro dros ryddid carcharorion Libanaidd yn Israel. er mwyn cyfnewid carcharorion, buont hefyd yn llwyddiannus yn cipio milwyr Israel.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Lara Dunston, Terry Carter (2004). Syria & Lebanon. Lonely Planet. ISBN 1-86450-333-5
  2. (2002) Pity the Nation: The Abduction of Lebanon. Thunder's Mouth Press / Nation's Books, tud. 74. ISBN 1-56025-442-4
  3. Ben D. Mor (2002). "7", Bound by Struggle: The Strategic Evolution of Enduring International Rivalries. University of Michigan Press, tud. 192. ISBN 0-472-11274-0
  4.  The Hizballah Program: An Open Letter (to the Downtrodden in Lebanon and the World). Institute for Counterterrorism (16 Chwefror 1985). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2006. Adalwyd ar 24 Awst 2006.
  5. Mae gwefan y BBC yn ehangu ar y pwyntiau hyn: "Israeli court frees Lebanese prisoners", BBC News, 12 Ebrill 2000.
  6.  Israeli striles kill 40 in Lebanon. Al Jazeera (13 Gorffennaf 2006).