Gwrthryfel Dwyrain yr Almaen (1953)

Dechreuodd gwrthryfel 1953 yn Nwyrain yr Almaen gyda streic yn Nwyrain Berlin gan adeiladwyr ar 16 Mehefin. Trodd yn wrthryfel eang yn erbyn llywodraeth Stalinaidd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen ar 17 Mehefin. Cafodd y gwrthryfel yn Nwyrain Berlin ei lethu'n dreisgar gan danciau Grŵp y Lluoedd Sofietaidd yn yr Almaen a'r Volkspolizei. Er ymyrraeth lluoedd yr Undeb Sofietaidd, roedd yn anodd i'r awdurdodau atal y streiciau a'r protestiadau. Hyd yn oed wedi'r 17 Mehefin, bu gwrthdystiadau mewn mwy na 500 o drefi a phentrefi.

Gwrthryfel Dwyrain yr Almaen
Enghraifft o'r canlynolgwrthryfel Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Mehefin 1953 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Oer Edit this on Wikidata
LleoliadGweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tanc Sofietaidd yn Leipzig ar 17 Mehefin 1953
Baner Yr AlmaenEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.