Gwrthryfel Gwyddelig 1798

Gwrthryfel 1798 y gelwir y gwrthryfel hwn gan y Gwyddelod fynychaf, neu yn Gaeleg: Éirí Amach 1798). Fe barodd am ychydig fisoedd yn erbyn Awdurdod Llywodraeth Lloegr yn Iwerddon. Y grŵp a gododd ar ei draed er mwyn herio'r drefn Seisnig oedd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig (Saesneg: Society of United Irishmen), grŵp oedd yn dilyn arweiniad dulliau chwyldro America a Ffrainc.

Gwrthryfel Gwyddelig 1798
Mathgwrthryfel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWar of the Second Coalition Edit this on Wikidata
LleoliadGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Theobald Wolfe Tone - Arweinydd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig.

Yn dilyn annogaeth gan arweinydd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig, casglodd llynges Ffrengig, a anfonwyd gan y Chwyldroadwyr yn Ffrainc, gerllaw Bae Bantry yn Rhagfyr 1796 yn barod i'w cynhorthwyo i hel y Saeson o'u gwlad. Ond oherwydd stormydd geirwon, trodd y llynges ar eu sodlau ac adref i Ffrainc. Dywedodd Woolf Tone, "England has had its luckiest escape since the Armada."

Canlyniad hyn oll oedd i Loegr ffyrnigo a chlampio i lawr ar y Gwyddelod, yn enwedig yn ardal Ulster, gan losgi tai, defnyddio artaith a llofruddio yn ddi-baid. Yn 1798, roedd dyddiad dechrau'r gwrthryfel wedi ei bennu fel 23 Mai, ond ar 18 Mai rhoddodd gŵr o'r enw Magan wybod i'r awdurdodau ymhle roedd Arglwydd Edward FitzGerald, y prif arweinydd oedd yn dal yn rhydd yn Iwerddon. Roedd Fitzgerald mewn tŷ yn Nulyn ac yn ei wely yn dioddef gan dwymyn. Clwyfwyd ef wrth geisio dianc, a bu farw o'i glwyfau yng ngharchar Newgate, Dulyn ar 4 Mehefin. Canlyniad hyn oedd i'r gwrthryfel fynd ymlaen heb arweiniad effeithiol.

Un o brif frwydrau'r Gwrthryfel oedd Brwydr Arklow. Ar 9 Mehefin 1798, ymosododd byddin o wrthryfelwyr Gwyddelig o 10,000 ar Arklow yn Swydd Wicklow oedd o dan reolaeth Prydain. Roedd y dref wedi cael ei gwagio ac wedi ei hamddiffyn gan oddeutu 1,700 o ddynion o dan Francis Needham. Er gwaethaf y rhagoriaeth niferoedd, ni ddaeth y gwrthryfelwyr i mewn i'r ddinas a dioddef colledion sylweddol. Bu o leiaf 1,000 o farwolaethau, bu farw un o brif arweinydd y gwrthryfelwyr, Michael Murphy, yn yr ymosodiadau. Atgoffir y dioddefwyr gan ddwy gofeb yn y ddinas.

Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.