Epistemoleg

(Ailgyfeiriad o Gwybodeg)

Y gangen o athroniaeth sy'n ymwneud a natur gwybodaeth, a't berthynas rhwng gwybodaeth a gwirionedd yw epistemoleg[1] (o'r Groeg επιστήμη - episteme, "gwybodaeth" + λόγος, "logos"), epistemeg[1][2] neu gwybodeg.[1][3] Mae'n delio â chwestiynau fel "Beth yw gwybodaeth?", "Sut mae cael gwybodaeth?", a "Beth mae pobl yn ei wybod?"

Er enghraifft, yn un o ddialogau Platon, Theaetetus, mae Socrates yn ystyried nifer o syniadau ynghylch natur gwybodaeth. Yr olaf yw fod gwybodaeth yn gred wir y gellir rhoi cyfrif amdani; hynny yw, i feddu gwybodaeth, mae'n rhaid i berson nid yn unig gredu rhywbeth sy'n wir ond hefyd feddu ar reswm da dros gredu hynny.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [epistemology].
  2.  epistemeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  3.  gwybodeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.


  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.