Gwyneth Paltrow

actores

Actores a chantores yw Gwyneth Kate Paltrow (ganwyd 27 Medi 1972) o Los Angeles, Califfornia. Yn ferch i Brice Paltrow a Blythe Danner, gadawodd Paltrow ei chwrs prifysgol er mwyn dilyn gyrfa ym myd actio. Dechreuodd ei gyrfa yn perfformio mewn theatrau ym 1990, a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm y flwyddyn ganlynol. Mae ei ffilmiau cynharaf yn cynnwys y ffilmiau llwyddiannus Se7en (1995), Emma (1996), lle chwaraeodd y prif ran, a Sliding Doors (1998). Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei pherfformiad yn Shakespeare in Love (1998); enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gorau, Gwobr Golden Globe a dau o wobrau'r Chymdeithas yr Actorion Sgrîn am Brif Actores Eithriadol ac fel aelod o Gast Eithriadol, ynghyd â nifer o wobrau ac enwebiadau eraill.

Gwyneth Paltrow
GanwydGwyneth Kate Paltrow Edit this on Wikidata
27 Medi 1972 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Spence School
  • Prifysgol Califfornia, Santa Barbara
  • Crossroads School
  • Crossroads School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, person busnes, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MudiadTime's Up Edit this on Wikidata
TadBruce Paltrow Edit this on Wikidata
MamBlythe Danner Edit this on Wikidata
PriodChris Martin, Brad Falchuk Edit this on Wikidata
PartnerBrad Pitt, Ben Affleck, Robert Sean Leonard, Donovan Leitch, Luke Wilson Edit this on Wikidata
PlantMoses Martin, Apple Martin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Q41043454, Gwobr Crystal, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau'r Academi, Golden Globes, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Emmy 'Primetime' Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gwynethpaltrow.com/ Edit this on Wikidata

Parhaodd ei llwyddiant gyda rôlau mewn ffilmiau fel The Talented Mr. Ripley (1999) a Shallow Hal (2001). Serennodd hefyd yn y ffilm Duets (2000), a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan ei thad Bruce Paltrow. Canodd Gwyneth Paltrow ddwy gân ar y trac sain a bu'r caneuon yn llwyddiannus mewn rhai gwledydd. Derbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm am Proof (2005). Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ffilm Iron Man (2008).

Yn aml, mae ei bywyd personol wedi derbyn llawer o sylw gan y wasg; bu'n canlyn â Brad Pitt o 1995 tan 1997, a phriododd Chris Martin, prif leisydd y band roc Seisnig Coldplay, yn 2003. Maent yn rhieni i ddau o blant, Apple Blythe Alison Martin (g. 2004) a Bruce Anthony Martin (g. 2006). Dywedodd Paltrow iddi leihau ei baich gwaith ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cwpl yn gwahanu ar ôl bod yn briod am ddeng mlynedd.

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1991 Shout Rebecca
Hook Wendy Darling Ifanc
1993 Deadly Relations Carol Ann Fagot
Malice Paula Bell
Flesh and Bone Ginny
1994 Mrs. Parker and the Vicious Circle Paula Hunt
1995 Higher Learning Myfyriwr Di-enw
Jefferson in Paris Patsy Jefferson
Se7en Tracy Mills Enwebwyd am - Gwobr Saturn am yr Actores Gefnogol Orau
Moonlight and Valentino Lucy Trager
1996 Hard Eight Clementine
The Pallbearer Julie DeMarco
Emma Emma Woodhouse Gwobr Satellite Award am yr Actores Orau - Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd
1998 Out of the Past Sarah Orne Jewett llais
Sliding Doors Helen Quilley Cymdeithas y Beirniaid Ffilm Rwsiaidd - Actores Orau o Dramor
Gwobr am yr Actores Orau Hefyd am Shakespeare in Love
Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm San Diego Hefyd am Shakespeare in Love
Great Expectations Estella
Hush Helen Baring
A Perfect Murder Emily Bradford Taylor
Shakespeare in Love Viola De Lesseps Gwobr yr Academi am yr Actores Orau
Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm sioe gerdd neu gomedi
Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actores mewn prif ran
Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am y Cast Gorau - Ffilm
Gwobr Empire am yr Actores Orau
Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Joseph Fiennes
Enwebwyd - Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Ran
Enwebwyd - Gwobr Satellite am yr Actores Orau mewn Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd
Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Perfformiad Benywaidd Gorau
1999 The Talented Mr. Ripley Marge Sherwood
2000 The Intern Ei hun Heb gydnabyddiaeth
Duets Liv
Bounce Abby Janello Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Ben Affleck
2001 The Anniversary Party Skye Davidson
The Royal Tenenbaums Margot Tenenbaum Enwebwyd - Gwobr Satellite am y Ffilm Gomedi neu Sioe Gerdd Orau
Enwebwyd - Cymdeithas y Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau
Shallow Hal Rosemary Shanahan
2002 Searching for Debra Winger Ei hun Ffilm ddogfen
Austin Powers in Goldmember Gwyneth Paltrow fel Dixie Normous yn 'Austinpussy'
Possession Maud Bailey
2003 View from the Top Donna Jensen
Sylvia Sylvia Plath
2004 Sky Captain and the World of Tomorrow Polly Perkins Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Jude Law
2005 Proof Catherine Enwebwyd - Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm
2006 Infamous Kitty Dean
Love and Other Disasters Hollywood Jacks
Running with Scissors Hope Finch
2007 The Good Night Dora
2008 Iron Man Virginia "Pepper" Potts
Two Lovers Michelle
Spain... on the road Again Ei hun Cyfres deithio am fwyd 13 rhaglen gyda Mario Batali, Mark Bittman, a Claudia Bassols
2009 King Lear Regan
2010 Iron Man 2 Virginia "Pepper" Potts
2010 Country Strong Kelly Canter
2011 Glee: The 3D Concert Movie Holly Holliday Heb gydnabyddiaeth[1]
2011 Contagion Beth Emhoff
2012 Thanks for Sharing Phoebe
2012 The Avengers Pepper Potts
2013 Iron Man 3 Pepper Potts
2015 Mortdecai Johanna Mortdecai

Cyfeiriadau golygu

  1. Maloy, Sarah (June 17, 2011). "'Glee Live!' Surprises With Paltrow & Lynch Appearances, a Proposal". Billboard. Prometheus Global Media.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.