Gylfinbraff

rhywogaeth o adar
Gylfinbraff
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Coccothraustes
Rhywogaeth: C. coccothraustes
Enw deuenwol
Coccothraustes coccothraustes
(Linnaeus, 1758)
Coccothraustes coccothraustes

Mae'r Gylfinbraff (Coccothraustes coccothraustes) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn bach sy'n nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia.

Nid yw'r Gylfinbraff yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o ogledd Asia yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu mewn coedwigoedd llydanddail gyda choed mawr, hynafol, neu lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Hadau a cherrig ffrwythau yw ei brif fwyd; mae'n arbennig o hoff o gerrig ceirios ac mae'n un o'r ychydig o adar sy'n medru eu bwyta.

Fel rheol nid yw'r aderyn yma yn ymgasglu'n heidiau, ond yn aml mae cryn nifer o adar yn casglu at ei gilydd gyda'r nos i glwydo. Mae'n aderyn mwy na'r rhan fwyaf o'r llinosiaid, 16.5–18 cm o hyd. Gellir ei adnabod yn hawdd o'r pig, sy'n llawer mwy na phig unrhyw un arall o deulu'r llinosiaid. Mae'r pen yn oren-frown gyda du ar draws y llygad ac ar y fron, brown ar y cefn ac oren ar y bol. Wrth hedfan mae'n dangos llawer o wyn ar yr adenydd ac ar flaen y gynffon, ac mae'r gynffon yn fyrrach na'r rhan fwyaf o adar sydd tua'r un faint.

Nid yw'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond gellir gweld cryn nifer yn mynd i glwydo mewn rhai lleoedd. Yn aml mae o gwmpas mynwentydd gyda choed yw yn le da i edrych amdano.