Ynys Môn
Sir ac ynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Ynys Môn. Mae'r ynys wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan gulfor Afon Menai. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol Pont Y Borth a godwyd gan Thomas Telford yn 1826 a'r un fwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu yr A55 â'r ynys ynghyd a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael ei Seisnigeiddo dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r Fro Gymraeg.

Mae'r dref â'r enw hiraf yng Nghymru ar yr ynys, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Ond enw gwneud ar gyfer y twristiaid ydyw: bydd pobl Môn yn ei alw'n Llanfair neu Llanfairpwll (Llanfair PG yn Saesneg). Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai. mwy...



Read in another language

This page is available in 284 languages

Last modified on 19 Mai 2013, at 20:13