Mae hanes Armenia, gwlad fynyddig yn y Caucasus, yn cychwyn yn nyddiau cynhanes ac yn pontio hanes Ewrop a hanes Asia.

Cyfnod cynnar golygu

Yn y cyfnod clasurol roedd Armenia yn deyrnas annibynnol, a than ei brenin Tigranes Fawr (teyrnasodd 95 CC - 55 CC) meddiannodd diroedd helaeth, cyn belled a Syria. Sefydlodd Tigranes brifddinas newydd, Tigranocerta. Yn 66 CC gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid dan Gnaeus Pompeius Magnus, ac o hynny hyd ddiwedd ei oes roedd yn teyrnasu dan arolygaeth Rhufain. Rhennid tiriogaeth Armenia yn ddwy dalaith gan y Rhufeiniaid, sef Armenia Inferior (neu Armenia Minor) ar arfordir y Môr Du ac Armenia Superior (neu Armenia Major) yn y dwyrain. Bu ymgiprys sawl gwaith am reolaeth ar yr olaf rhwng Rhufain a phŵerau eraill yn y rhanbarth.

Cyfnod modern golygu

O'r 1550au ymlaen, roedd Armenia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid a Phersia. Cymerodd Rwsia reolaeth dros Ddwyrain Armenia yn 1813 a 1828. Fel cenhedloedd Cristonogol eraill Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd yr Armeniaid yn ddinesyddion eilradd, gan ddioddef gwahaniaethu hiliol. Arweiniai galwadau am hawliau cydraddol o'r 1880au ymlaen at ymateb llym gan yr ymerodraeth a bu mwy nag un cyflafan yn erbyn y boblogaeth Armenaidd yn yr 1890au ac eto yn 1915. Mae Armeniaid a'r rhan fwyaf o haneswyr y tu allan i Dwrci yn tueddu i weld digwyddiadau 1915, pryd bu farw rhwng 650,000 a 1.5 miliwn o bobl, fel ymgais fwriadiol at hil-laddiad. Dehongliad swyddogol y digwyddiadau yn Nhwrci yw bod miloedd o bobl ar y ddwy ochr wedi marw mewn rhyfel cartref, o glefyd ac o newyn.

 
Golygfa ar y brifddinas Yerevan gyda Mynydd Ararat yn y cefndir

Gyda Chwyldro Rwsia yn 1917, daeth Dwyrain Armenia yn annibynnol o Rwsia fel rhan o wladwriaeth ynghyd â Georgia ac Aserbaijan. Ni pharodd y ffederasiwn ond am hanner flwyddyn, a daeth Dwyrain Armenia yn wladwriaeth annibynnol ar 28 Mai 1918. Pan chwalwyd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd y tiriogaethau Armenaidd o fewn yr ymerodraeth â Gweriniaeth Ddemocrataidd Armenia dan un o delerau Cytundeb Sèvres a lofnodwyd ar 10 Awst 1920. Serch hynny, roedd Armenia yn gorfod wynebu rhagor o ryfeloedd. Collodd ryfel â Thwrci yn 1920 (y Rhyfel Dwrco-Armenaidd) ac o dan telerau Cytundeb Alexandropol gorfu iddi ildio'r rhan fwyaf o'i harfau a'i thir i Dwrci. Ar yr un pryd, ymosodwyd arni gan y Fyddin Goch, a arweiniodd at reolaeth Sofietaidd yn rhelyw'r wlad o fis Rhagfyr 1920 ymlaen. Yn 1922, ymgorfforwyd Armenia yn yr Undeb Sofietaidd fel rhan o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Transcausasia (SFSR Transcaucasia), gweriniaeth a barodd tan 1936, pryd daeth Armenia yn weriniaeth ar wahân o fewn yr Undeb Sofietaidd.

Ailenillodd Armenia ei hannibyniaeth gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.