Yn y cyfnod clasurol, adnabyddid y dirigaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau neu wladwriaethau Celtaidd. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.

Ffrainc yn 1477

Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galaidd-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaidd, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel cyfundebwyr (foederati) gan yr ymerawdwr Rhufeinig Julian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen.

Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.

Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.

Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ffrainc yn un o'r Cynghreiriaid. Yn dilyn Brwydr Ffrainc ym 1940 rhannwyd Ffrainc fetropolitanaidd yn rhanbarthau a feddiannwyd gan yr Almaen a'r Eidal a rhanbarth Llywodraeth Vichy oedd yn cydweithio â Phwerau'r Axis. Yn ystod blynyddoedd y feddiannaeth, brwydrodd mudiad y résistance yn erbyn y meddianwyr a'r cydweithredwyr. Adferwyd sofraniaeth Ffrengig ym 1944 ac aeth y Cynghreiriaid ymlaen i ennill y rhyfel ym 1945.

Gweler hefyd golygu