Hanes Gweriniaeth Iwerddon

Sefydlwyd y wladwriaeth a adwaenir yn awr fel Gweriniaeth Iwerddon yn 1922, pan enillodd 26 o siroedd Iwerddon annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig. Arhosodd y chwe sir arall yn rhan o'r Deyrnas Unedig fel Gogledd Iwerddon.

Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Yr Arlywydd Éamon de Valera

Yn ôl y cytundeb a wnaed a llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Rhagfyr 1921, crewyd gwladwriaeth gyda'r teitl "Gwladwriaeth Rydd Iwerddon" (Gwyddeleg, Saorstat Eireann; Saesneg, Irish Free State). Roedd gan y gogledd yr hawl i ddewis peidio cael ei gynnwys yn y wladwriaeth newydd. Ar bleidlais o 64 to 57, cytunodd y Dáil i'r trefniant, a than arweiniad Michael Collins ac Arthur Griffith sefydlwyd y wladwriaeth newydd. Fodd bynnag, roedd carfan dan arweiniad Eamon de Valera yn gwrthwynebu'r cytundeb. Bu rhyfel cartref a barhaodd hyd 1923; lladdwyd Michael Collins ond yn y diwedd bu'r blaid oedd yn cefnogi'r cytundeb yn fuddugol.

Yn 1932, enillodd Eamon de Valera, oedd wedi ffurfio ei blaid ei hun, Fianna Fáil, yr etholiad cyffredinol. Ar 29 Rhagfyr 1937 daeth ef a chyfansoddiad newydd i rym, yn newid enw'r wladwriaeth i "Iwerddon" yn unig ac yn creu swydd Arlywydd. Ail-enwyd swydd y Prif Weinidog yn Taoiseach. Arhosodd Iwerddion yn niwrtal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar 1 Ebrill 1949, cyhoeddwyd y wladwriaeth yn weriniaeth, gyda'r arlywydd yn cymryd y swyddogaethau oedd cynt wedi eu cadw i'r brenin. Er mai "Iwerddon" oedd yr enw swyddogol o hyd, daeth "Gweriniaeth Iwerddon" i gael ei ddefnyddio. Ymunodd a'r Cenhedloedd Unedig yn 1955 ac a'r Undeb Ewropeaidd yn 1973.

Aeth y Weriniaeth trwy gyfnod anodd yn economaidd tua diwedd y 1970au. Amrywiai'r llywodraeth rhwng y ddwy blaid fawr, Fianna Fáil a Fine Gael, gyda Charles Haughey yn Taoiseach dair gwaith a Garret FitzGerald ddwywaith yn ystod y 1980au. O ddechrau'r 1990au ymlaen, dechreuodd yr economi dyfu'n gyflym, ac erbyn dechrau'r 2000au Iwerddon oedd aelod ail-gyfoethocaf yr Undeb Ewropeaidd. Yn 1997 daeth Bertie Ahern yn Taoiseach.

Rhestr Prif Weinidogion Iwerddon ers 1937 (Taoisigh na hÉireann) golygu

# Enw Dechrau Swydd Gadael Swydd Plaid
1.Éamon de Valera 29 Rhagfyr, 1937 18 Chwefror, 1948 Fianna Fáil
2.John A. Costello 18 Chwefror, 1948 13 Mehefin, 1951 Fine Gael
Éamon de Valera (ail dro) 13 Mehefin, 1951 2 Mehefin, 1954 Fianna Fáil
John A. Costello (ail dro) 2 Mehefin, 1954 20 Mawrth, 1957 Fine Gael
Éamon de Valera (trydydd tro) 10 Mawrth, 1957 23 Mehefin, 1959 Fianna Fáil
3.Seán Lemass 23 Mehefin, 1959 10 Tachwedd, 1966 Fianna Fáil
4.Jack Lynch 10 Tachwedd, 1966 14 Mawrth, 1973 Fianna Fáil
5.Liam Cosgrave 14 Mawrth, 1973 5 Gorffennaf, 1977 Fine Gael
Jack Lynch (ail dro) 5 Gorffennaf, 1977 11 Rhagfyr, 1979 Fianna Fáil
6.Charles J. Haughey 11 Rhagfyr, 1979 30 Mehefin, 1981 Fianna Fáil
7.Garret FitzGerald 30 Mehefin, 1981 9 Mawrth, 1982 Fine Gael
Charles Haughey (ail dro) 9 Mawrth, 1982 14 Rhagfyr, 1982 Fianna Fáil
Garret FitzGerald (ail dro) 14 Rhagfyr, 1982 10 Mawrth, 1987 Fine Gael
Charles Haughey (trydydd tro) 10 Mawrth, 1987 11 Chwefror, 1992 Fianna Fáil
8.Albert Reynolds 11 Chwefror, 1992 15 Rhagfyr, 1994 Fianna Fáil
9.John Bruton 15 Rhagfyr, 1994 26 Mehefin, 1997 Fine Gael
10.Bertie Ahern 26 Mehefin, 1997 9 Mawrth, 2011 Fianna Fáil
11.Enda Kenny 9 Mawrth, 2011 presennol Fine Gael

Rhestr Arlywyddion Iwerddon golygu

# Enw Dechrau y Swydd Gadael y Swydd Plaid nodiadau
Comisiwn Arlywyddol 29 Rhagfyr, 193725 Mehefin, 1938 dros dro
1. Douglas Hyde 25 Mehefin, 193824 Mehefin, 1945 enwebwyd gan bob plaid
2.Seán T. O'Kelly 25 Mehefin, 194524 Mehefin, 1959 Fianna Fáil2 dymor
3.Éamon de Valera 25 Mehefin, 195924 Mehefin, 1973 Fianna Fáil2 dymor
4.Erskine Hamilton Childers 25 Mehefin, 197317 Tachwedd, 1974 Fianna FáilBu farw 17/11/74
Comisiwn Arlywyddol 17 Tachwedd, 197418 Rhagfyr, 1974 dros dro
5.Cearbhall Ó Dálaigh 19 Rhagfyr, 197422 Hydref, 1976 Fianna Fáilymddiswyddodd 22/10/76
Comisiwn Arlywyddol 22 Hydref, 19762 Rhagfyr, 1976 dros dro
6.Patrick Hillery 3 Rhagfyr, 19762 Rhagfyr, 1990 Fianna Fáil2 dymor
7.Mary Robinson 3 Rhagfyr, 1990 12 Medi, 1997 Llafurymddiswyddodd 2 fis yn gynnar er mwyn dechrau swydd gyda'r Cenhedloedd Unedig
Comisiwn Arlywyddol 12 Medi, 199710 Tachwedd, 1997 dros dro
8.Mary McAleese 10 Tachwedd, 199710 Tachwedd 2011 Fianna Fáil
9.Michael D. Higgins 11 Tachwedd, 2011heddiw Llafur

Gweler hefyd golygu