Daeth y diriogaeth i'r gorllewin o Afon Donaw yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig dan yr enw Pannonia. Wedi cwymp yr ymerodraeth yn y gorllewin, daeth Hwngari yn rhan o ymerodraeth yr Hyniaid dan Attila, a ystyrid yn draddodiadol fel cyndad yr Hwngariaid. Wedi machlud ymerodraeth yr Hyniaid, rheolwyd Pannonia gan yr Ostrogothiaid ac yna'r Lombardiaid. Yn y 560au sefydlodd yr Afariaid deyrnas yma, a barhaodd hyd nes i'r Ffranciaid dan Siarlymaen eu gorchfygu.

Y Tywysog Árpád yn croesi'r Mynyddoedd Carpathaidd. Rhan o lun enfawr (1800 m²) gan Árpád Feszty a'i gynorthwyr i nodi milflwyddiant concwest Hwngari gan y Magyar

Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9g, gan ddechrau gyda'r Mynyddoedd Carpathaidd dan y tywysog Árpád yn 896. Roedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yng Nghanolbarth Ewrop.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd Béla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog Rwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth. Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad.

Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth ddemocrataidd gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945 - 1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.

Heddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a pleidleisiodd o blaid Cyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006.

Eginyn erthygl sydd uchod am Hwngari. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.