Tardda hanes Laos yn ôl i Deyrnas Lang Xang a fodolodd o'r 14g i'r 18g. Rhannodd Lang Xang yn deyrnasoedd Luang Phrabang a Vientiane ym 1707 a Theyrnas Champasak ym 1713, a gafodd eu rheoli a'u cyfeddiannu gan Fyrma a Siam yn y 18fed a 19goedd. Ym 1893 daeth Laos yn rhan o Indo-Tsieina Ffrengig, trefedigaeth Ffrainc yn Ne Ddwyrain Asia. Ym 1953 daeth Teyrnas Laos yn wladwriaeth annibynnol, a chychwynnodd rhyfel cartref rhwng comiwnyddion y Pathet Lao a Llywodraeth Frenhinol y Lao, oedd yn rhan o Ail Ryfel Indo-Tsieina. Enillodd y Pathet Lao, gyda chymorth Gogledd Fietnam, ym 1975 a chyhoeddwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Lao. Ers 1975, ymladdwyd rhyfel mewnol rhwng Byddin Pobl Lao a'r Hmong, grŵp ethnig oedd yn gwrthwynebu'r comiwnyddion yn ystod y rhyfel cartref.

Llyfryddiaeth golygu

  • Stuart-Fox, M. A History of Laos (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1997).