Siop yw Harrods sydd wedi ei lleoli ar Heol Brompton, Llundain, Knightsbridge, Llundain, Lloegr. Yn gysylltiedig â chwmni Harrods mae Harrods Bank, Harrods Estates, Harrods Aviation a Air Harrods.

Harrods
Math
siop adrannol
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau
Diwydiantmanwerthu
Tyngedymosodiad terfysgol
Sefydlwyd1834
SefydlyddCharles Henry Harrod
PencadlysLlundain
PerchnogionQatar Investment Authority
Rhiant-gwmni
Qatar Investment Authority
Lle ffurfioLlundain
Gwefanhttp://www.harrods.com/ Edit this on Wikidata
Harrods yn 2009

Mae safle'r siop yn mesur 4.5 erw (18,000 m2) ac mae ganddi dros filiwn o droedfeddi sgwâr o le gwerthu a hynny mewn 330 o adrannau. Golyga hyn mai Harrods yw un o siopau mwyaf y byd, ynghyd â Macy's Efrog Newydd. Ail siop fwyaf y Deyrnas Unedig yw Selfridges ar Stryd Rhydychen, Llundain sydd ychydig dros hanner maint Harrods gyda 540,000-troedfedd sgwâr (50,000 m2) o le gwerthu.

Arwyddair Harrods ydy Omnia Omnibus Ubique — Pob Peth i Bob Un, Ym Mhobman. Mae nifer o'i hadrannau, gan gynnwys yr adran Nadoligaidd dymhorol a'r Neuadd Fwyd yn fyd enwog.

Dolenni allanol golygu