Harry Secombe

diddanwr Cymreig (1921-2001)

Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001). Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y "Windmill Theatr", Llundain.

Harry Secombe
Ganwyd8 Medi 1921 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ebrill 2001 Edit this on Wikidata
Guildford Edit this on Wikidata
Label recordioPhilips Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PlantAndy Secombe Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn ac yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.

Bywyd personol golygu

Cyfarfu Secombe ei ddarpar-wraig Myra Joan Atherton yn neuadd ddawns Pier Y Mwmbwls yn 1946. Roedd y ddau yn briod o 1948 hyd ei farwolaeth. Cawsant pedwar o blant:

  • Jennifer Secombe, gweddw yr actor Alex Giannini. Hi oedd asiant ei thad yn y blynyddoedd diweddar.
  • Andy Secombe, actor llais, ffilm ac awdur
  • David Secombe, awdur a ffotograffydd
  • Katy Secombe, actores

Bu farw ei weddw Myra ar 7 Chwefror 2018 yn 93 mlwydd oed.[1]

Caneuon golygu

  • "On With The Motley" (1955)
  • "If I Ruled The World" (1963)
  • "This Is My Song" (1967)

Dyfyniadau golygu

  • "I suffer fools gladly because I am one of them."
  • "My voice is not so much 'bel canto' as 'can belto'."
  • "Anyone who, for 25 years, has built a career on such tenuous foundations as a high-pitched giggle, a raspberry and a sprinkling of top 'Cs' needs all the friends he can get."

Cyfeiriadau golygu