Hatikva (Hebraeg: הַתִּקְוָה, ha-Tiḳṿa(h); Arabeg: هاتكفا; yn llythrennol Y Gobaith) yw anthem genedlaethol Israel.

Ysgrifennwyd y geiriau yn 1878 gan Naftali Herz Imber, bardd o Iddew seciwlar o Zolochiv yn yr Wcrain.

Hebraeg Ynganiad Cymraeg
כל עוד בלבב פנימה
נפש יהודי הומיה,
ולפאתי מזרח קדימה,
עין לציון צופיה,
  Kol od baleivav p'nimah
Nefesh y'hudi homiyah
Ulfa'atei mizrach kadimah
Ayin l'tziyon tzofiyah
Tra mae yn y galon, tu mewn,
Enaid Iddewig yn dyheu,
A hyd ymylon y Dwyrain, ymlaen,
Mae llygad yn gwylio i Sion,
עוד לא אבדה תקוותנו,
התקווה בת שנות אלפים,
להיות עם חופשי בארצנו,
ארץ ציון וירושלים.
  Od lo avdah tikvateinu
Hatikvah bat sh'not alpayim
Lihyot am chofshi b'artzeinu
Eretz tziyon viyrushalayim
Ni chollwyd ein gobaith eto,
Gobaith dwy fil o flynyddoedd,
I fod yn genedl rydd yn ein gwlad ein hunan,
Y wlad Seion a Jeriwsalem.