Hattie Jacques

actores a aned yn 1922

Actores gomedi Seisnig oedd Josephine Edwina Jaques (7 Chwefror 19226 Hydref 1980), a'i hadnabwyd dan yr enw llwyfan Hattie Jacques.

Hattie Jacques
GanwydJosephina Edwina Jaques Edit this on Wikidata
7 Chwefror 1922, 1924 Edit this on Wikidata
Sandgate Edit this on Wikidata
Bu farw6 Hydref 1980 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Eardley Crescent Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ferched Godolphin a Latymer Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, nyrs, welder Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • BBC
  • y Groes Goch Brydeinig Edit this on Wikidata
PriodJohn Le Mesurier Edit this on Wikidata
PlantRobin Le Mesurier, Kim Le Mesurier Edit this on Wikidata

Dechreuodd ei gyrfa yn yr 1940au gan ddod yn enwog drwy ymddangos gyda Tony Hancock ar The Tony Hancock Show a Hancock's Half Hour. O 1958 tan 1974, actiodd mewn pedair ar ddeg o'r ffilmiau Carry On, gan chwarae rhan y Matron yn aml. Ffurfiodd Jacques bartneriaeth broffesiynol hir-dymor gydag Eric Sykes a gweithiodd gydag ef yn Sykes and A..., Sykes and a Big, Big Show a Sykes. Ymddangosodd Hattie Jacques mewn dau o ffilmiau clasurol Norman Wisdom sef "The Square Peg" a "Follow A Star".

Bu Jacques yn briod i John Le Mesurier, actor a ddaeth yn seren yn ddiweddarach fel y cymeriad Sergeant Arthur Wilson yn Dad's Army, o 1949 hyd eu ysgariad ym 1965. Bu farw Hattie Jacques o drawiad i'r galon ym 1980, yn 58 oed. Gwnaeth ei pherfformiad olaf mewn ysgol ar gyfer rhai gydag anhawsterau dysgu, gan berfformio ddarlleniad dramatic o Othello, gan William Shakespeare. Ei hymddangosiad olaf ar y teledu oedd mewn hysbyseb ar gyfer Asda yn ddiweddarach y flwyddyn honno.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.