Gwleidydd o Seland Newydd yw Helen Clark (ganed 26 Chwefror 1950). Hi oedd prif weinidog y wlad o 1999 hyd 2008 a bu'n weinyddwr Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig rhwng 2009 a 2017. Helen oedd y pumed prif weinidog hiraf yn Seland Newydd, a'r ail fenyw i ddal y swydd.[1]

Helen Elizabeth Clark
Helen Clark


Cyfnod yn y swydd
5 Rhagfyr 1999 – 19 Tachwedd 2008
Rhagflaenydd Jenny Shipley
Olynydd John Key

Geni (1950-02-26) 26 Chwefror 1950 (74 oed)
Hamilton, Seland Newydd
Etholaeth Mount Albert
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Peter Davies
Helen ar ei hymweliad â Llywodraeth Cymru; 2012

Cafodd Clark ei magu ar fferm y tu allan i Hamilton, Seland Newydd. Aeth i Brifysgol Auckland ym 1968 i astudio gwleidyddiaeth, a daeth yn weithgar ym Mhlaid Lafur Seland Newydd. Ar ôl graddio bu’n darlithio mewn astudiaethau gwleidyddol yn y brifysgol. Ymunodd Clark â gwleidyddiaeth leol ym 1974 yn Auckland ond ni chafodd ei hethol i unrhyw swydd. Yn dilyn un ymgais aflwyddiannus, fe’i hetholwyd i’r Senedd ym 1981 fel yr aelod dros Mount Albert, etholaeth a gynrychiolodd tan 2009.

Baner Seland NewyddEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Helen Clark". New Zealand history online. 20 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2012. Cyrchwyd 23 Mai 2012.