Darlunydd llyfrau plant Seisnig yw Helen Gillian Oxenbury (ganed 2 Mehefin 1938).[1] Mae'n adnabyddus am ei gwaith ar nifer helaeth o lyfrau ac am ennill nifer fawr o wobrau am ei darlunio.

Helen Oxenbury
Ganwyd2 Mehefin 1938 Edit this on Wikidata
Ipswich, Suffolk Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Central School of Art and Design
  • Ipswich High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, darlunydd, awdur plant Edit this on Wikidata
PriodJohn Burningham Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway, Gwobr Llyfrau Plant Nestlé, Gwobr Llyfrau Plant Nestlé, Medal Kate Greenaway Edit this on Wikidata

Magwyd Oxenbury yn Ipswich, Suffolk, Lloegr,[2] Mae wedi mwynhau darlunio ers bu'n ifanc iawn, ac aeth ymlaen i fynychu coleg celf yn ei harddegau a gweithiodd yn Ipswich Repertory Theatre Workshop, yn cymysgu paent yn ei hamser sbar.[3] Dechreuodd yrfa mewn theatr, ffilm a theledu. Priododd y darlunydd llyfrau plant John Burningham, a throdd hithau ei llaw at ddarlunio llyfrau plant hefyd. Mae'r pâr yn byw yng ngogledd Llundain.[4]

Ym 1988, crëodd Oxenbury gyfres o lyfrau am fachgen bach drygionus o'r enw Tom, a'i gyfaill, tegan mwnci meddal o'r enw Pippo. Mae wedi dweud fod cymeriad Tom yn debyg iawn i gymeriad ei mab pan yr oedd ef yr oed hwnnw. Bu ei mab yn aml yn rhoi'r bai am ei ddrygioni ar y ci, yn yr un modd a byddai Tom yn rhoi'r bai ar Pippo.[5] Mae gyrfa Oxenbury yn ymestyn dros 40 o flynyddoedd, ac mae'n dal i ddarlunio llyfreu plant hyd heddiw. Ei gwaith diweddaraf yw The Growing Story yn rhifyn Medi 2008 o gylchgrawn StoryBox a gyhoeddir gan Bayard Presse.

Llyfryddiaeth golygu

Mae rhestr hir o'i gweithiau'n cynnwys:

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.