Mae Helfa Gelf yn ŵyl agored ac eang sy'n digwydd ledled Gogledd Cymru pob mis Medi ers 2006, ac sydd bellach y digwyddiad mwyaf o'i fath drwy Gymru gyda dros 300 o artistiaid yn cymryd rhan.[1][2] Mae pob sir yng ngogledd Cymru'n cyfrannu tuag at yr ŵyl hon ar wahân i Sir Fôn. Cynhelir Helfa Gelf mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys orielau, gerddi, gwestai a neuaddau pentref.

Caiff ei drefnu gan nifer o gyrff gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Yr Academi Frenhinol Gymreig, Oriel Plas Glyn y Weddw, Castell Bodelwyddan, Menter Môn a Chadwyn Clwyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Helfa Gelf: North Wales artists open studio doors", BBC News, Wales, 8 September 2012. Retrieved on 21 Rhagfyr 2012.
  2. "Helfa Gelf Art Trail Begins"[dolen marw], North Wales and North Cheshire Chamber of Commerce, 6 Medi 2012. Adalwyd 21 Rhagfyr 2012.