Cymeriad ffuglennol yw Hello Kitty (Japaneg: ハローキティ Harō Kiti)[1] (enw llawn: Kitty White)[2] a gynhyrchir gan y cwmni Japaneaidd Sanrio a dyluniwyd yn wreiddiol gan Yuko Shimizu. Mae'n un o'r enghreifftiau enwocaf o kawaisa yn niwylliant poblogaidd Japan.[3] Ymddengys y cymeriad yn debyg i gath gwta Japaneaidd wen, gyda chwlwm coch ar ei phen. Yn ôl Sanrio, merch ysgol o Lundain yw Hello Kitty ac nid cath.[4] Ymddangosodd yn gyntaf ar bwrs finyl a gyflwynwyd yn Japan ym 1974 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1976.[5][6]

Hello Kitty
Enghraifft o'r canlynolanthropomorphic cat, doll Edit this on Wikidata
CrëwrYuko Shimizu Edit this on Wikidata
Màs3 afal Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1975 Edit this on Wikidata
PerchennogSanrio Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sanrio.com/hellokitty Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Hello Kitty bellach yn boblogaidd yn fyd-eang ac mae'i nod masnach yn werth mwy na $10 i $500 biliwn y flwyddyn.[7] Er anelir at farchnad merched ifanc yn bennaf, mae cynnyrch Hello Kitty yn amrywio o byrsau, sticeri, a setiau ysgrifbinnau i dostwyr, setiau teledu, dillad, ac offer cyfrifiadurol. Mae ganddi ddilynwyr cwlt o oedolion hefyd, yn enwedig yn Asia, lle welir Hello Kitty ar geir, gemwaith, a nifer o gynnyrch traul uchelradd. Cynhyrchwyd hefyd cyfres anime Hello Kitty ar gyfer plant ifanc.[8] Ceir hefyd dau barc thema sy'n gysylltiedig â'r cymeriad, sef Harmonyland a Sanrio Puroland.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Japaneg) サンリオキャラクターたちの本名、言えますか? (11 Gorffennaf 2008).
  2. (Saesneg) Hello Kitty. Sanrio.
  3. (Saesneg) 10 Questions for Yuko Yamaguchi. TIME (21 Awst 2008).
  4. (Saesneg) Butterly, Amelia (28 Awst 2014). Hello Kitty is not a cat - she's a British school kid. BBC. Adalwyd ar 28 Awst 2014.
  5. (Saesneg) Designing an Icon: Hello Kitty Transcends Generational and Cultural Limits. ToyDirectory (1 Ebrill 2003).
  6. (Saesneg) Hello Kitty celebrates 30. China News Daily (19 Awst 2005).
  7. Segers, Rien T. (2008). A New Japan for the Twenty-First Century. Routledge, tud. 127. ISBN 9780415453110URL
  8. (Saesneg) Sanrio's Hula Kitty heads to the beach. Honolulu Star-Bulletin (18 Mai 2003).