Heneglwys

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Bodffordd, Ynys Môn, yw Heneglwys[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir milltir i'r de o bentref Bodffordd, tua hanner ffordd rhwng Gwalchmai i'r gorllewin a Llangefni i'r dwyrain.

Heneglwys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2593°N 4.3641°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH425765 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Hanes a hynafiaethau golygu

Mae'r eglwys yn sefydliad hynafol. Enw arall arni gynt oedd Llan y Saint Llwydion ("llwyd" yn yr ystyr "sanctaidd").[3] Ymddengys mai Gwyddel o'r enw Corbre a sefydlodd yr eglwys, yn y 6g efallai; ceir llecyn gerllaw a elwir "Mynwent Corbre". Ceir sawl cyfeiriad at y fynwent honno yn y canu brud (daroganau ar gân) canoloesol.[4]

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin ceir englyn sy'n cyfeirio at fedd rhyfelwr o'r enw Ceri Cleddyfhir ym Mynwent Corbre yn Heneglwys:

Bedd Ceri Cleddyfhir yng ngodir Heneglwys,
Yn y diffwys graeandde,
Tarw torment, ym mynwent Corbre.
(Llyfr Du Caerfyrddin, orgraff ddiweddar)[5]

Roedd Heneglwys yn dref yn yr Oesoedd Canol, yng nghwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.[6]

 
Eglwys St Llwydian, Heneglwys

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[7] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[8]

Pobl o Heneglwys golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
  3. Melville Richards, "Enwau Lleoedd", yn Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 157
  4. Llyfr Du Caerfyrddin, gol. A. O. H. Jarman (Caerdydd, 1982)
  5. Llyfr Du Caerfyrddin, gol. A. O. H. Jarman (Caerdydd, 1982), 18.14-16
  6. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982).
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU