Lleidr banc Almaenig-Americanaidd oedd Herman K. Lamm (19 Ebrill 189016 Rhagfyr 1930),[1][2][3] a elwir yn Baron Lamm. Ystyrir yn un o'r lladron banciau mwyaf campus ac effeithlon erioed, ac yn "dad y lladrad banc modern".[4] Cafodd technegau Lamm eu hastudio a'u hefelychu gan ladron banciau eraill ar draws yr Unol Daleithiau, gan gynnwys John Dillinger.

Herman Lamm
Ganwyd19 Ebrill 1890 Edit this on Wikidata
Kassel Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Sidell, Illinois Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadMartin Lamm Edit this on Wikidata

Cyn-aelod o Fyddin Prwsia oedd Lamm a ymfudodd i'r Unol Daleithiau, a chredodd bod angen cynllunio ysbeiliad yn debyg i ymgyrch filwrol. Arloesodd y dulliau o lygadu (Saesneg: casing) banc a llunio llwybrau dianc cyn y lladrad. Llwyddodd Lamm i ysbeilio dwsinau o fanciau gan ddefnyddio'i system gynllunio fanwl gywir, "Techneg Lamm", o ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hyd 1930 pan laddodd ei hunan yn Sidell, Illinois, wedi lladrad aflwyddiannus.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Archifwyd 2011-07-11 yn y Peiriant Wayback. World War One Draft Registration Card
  2. Sifakis, Carl (2001). The Encyclopedia of American Crime. 2 (arg. 2). New York City, New York: Facts on File. t. 509. ISBN 0-8160-4634-4.
  3. Helmer, William J.; Mattix, Rick (1998). Public Enemies: America's Criminal Past, 1919–1940. New York City, New York: Facts on File. t. 17. ISBN 0-8160-3160-6.
  4. Diehl, William (1991). The Hunt. Ballantine Books. t. 204. ISBN 0-345-37073-2.
  5. Rushville Republican. 18 Rhagfyr 1930. t. 1. Missing or empty |title= (help)